Croesawu deddf ar ymosodiadau gan gŵn ar dda byw

Newyddion

Undeb Amaethwyr Cymru yn croesawu deddf ar ymosodiadau gan gŵn ar dda byw

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu deddfwriaeth newydd sydd wedi ei phasio  sy’n cyflwyno cosbau llymach am boeni da byw gan gŵn.

O dan y gyfraith newydd, bydd y terfyn dirwy presennol o £1,000 am boeni da byw yn cael ei ymestyn, gan alluogi llysoedd i osod dirwyon diderfyn. Bydd gan yr heddlu hefyd bwerau estynedig i feddiannu a chadw cŵn y credir eu bod yn peri bygythiad parhaus i dda byw.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys nifer o ddiwygiadau allweddol, gan gynnwys pwerau ehangach i’r heddlu i feddiannu cŵn. Bydd hefyd modd i’r heddlu gael gwarantau i fynd i gartrefi perchnogion cŵn y credir eu bod wedi cyflawni trosedd, gan gryfhau’r broses o gasglu tystiolaeth a chefnogi erlyniadau llwyddiannus.

Yn ogystal, mae’r gyfraith yn moderneiddio’r diffiniadau o ‘dda byw’, gan adlewyrchu newidiadau mewn arferion ffermio a phatrymau perchnogaeth cŵn. Am y tro cyntaf, bydd lamas ac alpacas yn derbyn yr un lefel o amddiffyniad cyfreithiol â gwartheg, defaid, geifr a dofednod.

Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn egluro y gall troseddau ddigwydd ar ffyrdd a llwybrau cyhoeddus, gan sicrhau bod da byw yn parhau i gael eu diogelu wrth gael eu symud ar hyd priffyrdd a llwybrau.

Croesawodd Anwen Hughes, is-lywydd rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, y ddeddfwriaeth gan nodi:

“Mae ymosodiadau gan gŵn yn achosi trawma difrifol i dda byw, ynghyd â straen economaidd ac emosiynol sylweddol i ffermwyr.

“Ers blynyddoedd mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn lobïo am fwy o bwerau cyfreithiol ac heddlua i fynd i’r afael ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Rydym felly’n croesawu’r ddeddfwriaeth hollbwysig yma, sy’n cynrychioli cam sylweddol a hir-ddisgwyliedig ymlaen o ran amddiffyn da byw, cefnogi ffermwyr, a chryfhau ein cymunedau gwledig.

“Yn y cyfamser, mae’n hanfodol bod perchnogion yn dangos cyfrifoldeb dros eu cŵn. Mae gan hyd yn oed y cŵn mwyaf cyfeillgar y reddf naturiol i ymosod ar dda byw, ac mae’n hanfodol bod perchnogion yn ymddwyn yn gyfrifol pan fyddant yng nghefn gwlad.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau