Beth yw’r ffordd orau o wneud yn siŵr bod cwmnïau a chyrff ledled y wlad yn parchu ein hiaith ac yn ufuddhau i’r gofynion cyfreithiol sydd erbyn hyn – wedi’r cwbl – yn hen hanes? Tybed sut – gyda chymhelliant cryf a chosb anochel neu gydag addysg, perswâd a strategaeth fwy creadigol.”
Dyna gnewyllyn yr anghytuno rhwng Cymdeithas yr Iaith a Chomisiynydd yr iaith mae’n siŵr er bod ambell drywydd yn mynd ymhellach i’r drain a’r ysgall hefyd.
Meddai’r Gymdeithas: “Mae’n amlwg bod y Comisiynydd yn benderfynol o droi’r corff yn gorff a fydd yn bennaf yn hyrwyddo’r Gymraeg mewn ffordd feddal.” Ond mae’r Comisiynydd wedi taro yn ôl yn gryf gan ddweud fod ganddi weledigaeth o’r Gymraeg fel iaith fyw sydd yn cael ei defnyddio yn ein bywydau o ddydd i ddydd, a bod rheoleiddio yn elfen ganolog o’r cynllun strategol a gyhoeddodd eleni. Pwy sy’n iawn – barnwch a darllenwch y stori yn llawn yn rhifyn Rhagfyr.
Mae ein amryw gyfryngau yng Nghymru yn cael eu gweld yn eang fel fersiynau Cymreig o bethau sydd yn eu helfen yn Saesnig.
Dywedir bod angen cyfryngau ein hunain sy’n adlewyrchu ein hunaniaeth ni yn ei chyfanrwydd. Digon teg – ond pwy sydd â’r hawl i drafod a phenderfynu ynglŷn â hyn – y pwerau cyfryngol presennol? – neu a yw eu bodolaeth hwythau yn rhan o’r hyn sydd rhaid ei newid?
Mae gan y colofnydd Heledd Gwyndaf bwynt dadleuol y mis yma wrth iddi honni nad oes gan S4C (na’r BBC chwaith) hawl i le yn y broses. Meddai Heledd: “…dw i yn fwy argyhoeddedig nag erioed o’r angen i ddatganoli darlledu ac yn fwy argyhoeddedig nag erioed, yn drist i ddweud, nad oes lle gan S4C o amgylch y bwrdd trafod hwnnw.” Darllenwch pam…
A beth sydd gan Wlad yr Iâ i ddysgu i Gymru ar ôl iddi iachau ei hun yn wyrthiol ar ôl cyfnod o waeledd economeg a oedd unwaith yn edrych yn angheuol. Wel, go lew yn ôl yr economegydd Dr Edward Thomas yn ei golofn yn y rhifyn hwn. Darllenwch ei fetaffor am y goleuni a’r trywydd y dylai’n gwlad ei ganlyn.
Sut wnaeth cyfnod pensaer enwog yng Nghymru arwain at rai o adeiladau mwyaf eiconig Lloegr? – darllenwch yr hanesydd Melfyn Hopkins yn y Cymro.
Mae rhifyn Rhagfyr ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Efalle, bydd mwy machnata mey o twrismau Cymru yn helpu? Dw i’n by yn yr Unol Daleithiau, a does dim llawer o pobl yn gwybod lle mae Cymru! Ond, dyma llawer o lyfrau am gwladoedd Celtig arall yn yr siopau llyfrau ‘ma. Ysgrifennes erthrhygl am hynny, am Bylines Cymru. Dw i’n caru Iaith y Nefoedd a’r wlad o ddreig a chestyll!