Rhifyn Ebrill Y Cymro

Newyddion

Beth yw’r annhegwch mwyaf sy’n effeithio ein gwlad a’i chyllid tybed? Wel, y ffaith nad ydym yn cael ceiniog o’n hadnoddau dŵr gwynt a môr sy’n rhan o Ystâd y Goron yn ôl ambell un.
A’r ffrae hyn sy’n cael y sylw ar y dudalen flaen y mis yma ac mewn erthygl estynedig tu mewn gan Deiniol Tegid.

Pam felly bod y sefyllfa fel y mae yng Nghymru a bod yr Alban yn cael budd o’u hasedau mewn ffordd gall.

Meddai Llinos Medi AS: “Dylai pobl Cymru fod yn berchen ar, ac yn elwa o, eu hadnoddau naturiol eu hunain. Drwy’r rhan helaeth o hanes Cymru, nid dyna fu’r achos, gydag adnoddau yn aml yn cael eu hecsbloetio er budd eraill.”

Cyfleoedd diflanedig pobl leol i gael prynu tŷ oedd y neges ar strydoedd Nefyn wrth i rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ wneud y pwynt unwaith eto. Mae llun a stori am y digwyddiadau i’w gweld yn y rhifyn a digon o farn glir. Meddai Cynghorydd Tref Nefyn, Iwan Rhys Evans: “…mae’n rhaid i ni gario mlaen â’n hachos i sicrhau fod ein plant ni ddim yn gor’od cynnal rali i gael byw yn eu milltir sgwâr.”

Ac mae Safonau’r Gymraeg wedi methu ac ar fin mynd yn angof yn ôl Heledd Gwyndaf yn ei cholofn. “Roedd gan bobl ryw lefel o barch tuag at y safonau ac yn awyddus i gydymffurfio. Collwyd y parch tuag at y rheolau yma ac mi gollodd y Safonau, a’r Gymraeg, eu statws. Doedd dim cosb o gwbwl o dorri’r rheolau. Darllenwch mwy am ei barn yn rhifyn Ebrill.

A be ddenodd yr artist Turner i gefn gwlad Cymru i greu campwaith? Darllenwch golofn yr hanesydd Melfyn Hopkins.

Mae rhifyn Ebrill ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau