Miloedd ar strydoedd y Barri i fynnu annibyniaeth i Gymru

Newyddion

Roedd dros 6,000  yn gorymdeithio drwy strydoedd y Barri heddiw i alw am annibyniaeth i Gymru.

Daeth yr orymdaith – wedi ei threfnu gan YesCymru ac AUOBCymru â phobl o bob cwr o’r wlad. Ers 2019, mae miloedd wedi bod yn rhan o orymdeithiau dros annibyniaeth ledled Cymru – mewn llefydd fel Caernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd .

Mae gan y Barri le balch yn hanes gwleidyddol Cymru gan i’r dre fod yn allweddol i fudiad Cymru Fydd dros Ymreolaeth i Gymru yn y 1890au. 

Yn dilyn yr orymdaith, cynhaliwyd rali ar Sgwâr y Brenin, gan roi llwyfan i siaradwyr gan gynnwys cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, yr ymgyrchydd o Gatalwnia Anna Arqué i Solsona, yr ymgyrchydd ifanc Kiera Marshall, llefarydd Plaid Werdd Cymru Tessa Marshall, y gantores Eädyth Crawford, a’r cynghorydd lleol Mark Hooper fel MC. Cafwyd perfformiad byw gan Emma Winter, sydd wedi serennu ar Y Llais ar S4C.

Dywedodd Kiera Marshall o Abertawe: “Sut allwn ni fforddio peidio â bod yn annibynnol? Mae’r system Brydeinig yn ein cadw ni’n dlawd, tra bod ein plant yn llwgu ac yn oer. Ni yw’r genhedlaeth sy’n dioddef fwyaf – ond ni hefyd yw’r genhedlaeth a fydd yn newid pethau. Rwy’n edrych ymlaen i sefyll yma eto, nid mewn protest, ond i ddathlu Cymru rydd a theg.”

Dywedodd Leanne Wood: “Mae’n bryd rhoi terfyn ar ein dibyniaeth. Mae gennym gyfle i adeiladu dewis amgen yn lle’r model economaidd aflwyddiannus sy’n llyncu adnoddau ac elw er budd Dinas Llundain a’r corfforaethau mawr, gan adael briwsion i weithwyr a chymunedau Cymru.”

Dywedodd Anna Arqué i Solsona, llefarydd Comisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewrop (ICEC): “Mae mudiadau fel ein rhai ni yn credu mai democratiaeth yw’r llwybr gorau i hunan- benderfyniad llawn, hyd yn oed pan fydd hyn yn gwrthdaro â buddiannau’r gwladwriaethau yr ydym wedi ein dal ynddynt. Dyna pam mae undod ymhlith ein cenhedloedd yn hanfodol, wedi’i wreiddio mewn hawliau dynol ac egwyddorion democrataidd.”

Dywedodd Tessa Marshall o Blaid Werdd Cymru: “Allwn ni ddim fforddio parhau i fod ynghlwm wrth y wladwriaeth Brydeinig. Nid oherwydd dewisiadau gwael mae plant mewn tlodi yng Nghymru – ond oherwydd degawdau o danariannu, a phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn bell o’n cymunedau ni. Gall Cymru annibynnol sefyll dros blant, sicrhau bod cartrefi’n gynnes ac yn ddiogel, a darparu dechrau teg mewn bywyd.”

Dywedodd Mark Hooper, cynghorydd lleol ac un o drigolion y Barri: “Mae’r orymdaith a’r rali heddiw yn dangos uchelgais y mudiad annibyniaeth. Tra bod gwleidyddion eraill yn anelu am y safon isaf bosib, mae ein mudiad ni’n ifanc, yn fywiog ac yn llawn gobaith. Mae’r tueddiadau demograffig o’n plaid – ond mae’n rhaid i ni symud yn gyflym.”

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths: “Mae’r hyn a welsom yn y Barri yn adlewyrchiad o deimladau ledled Cymru – mae pobl yn barod am newid, ac nid yw annibyniaeth bellach yn syniad ymylol. Mae’n ymateb difrifol a llawn gobaith i system sydd wedi methu.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau