Yn ôl arolwg barn newydd mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu
Mae canlyniadau arolwg barn a gomisiynwyd gan YesCymru yn dangos bod cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru ar ei uchaf erioed. Mae’r arolwg yn dangos y byddai 41% o bleidleiswyr sydd wedi gwneud eu penderfyniad yn pleidleisio dros annibyniaeth petai refferendwm yfory.
Wrth ymateb i ganlyniadau’r arolwg dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths:
“Mae’r arolwg barn yma yn garreg filltir i’r mudiad annibyniaeth. Mae’n dangos bod cefnogaeth ar gynnydd, mae i fyny pum pwynt ar ganlyniadau’r un cwmni llynedd, a bod bron i hanner yr oedolion o oed gwaith bellach yn hyderus yng ngallu Cymru i lywodraethu ei hun. Mae agwedd pobl wir yn newid, a phobl ar draws Cymru yn dechrau cynnal sgyrsiau am annibyniaeth o ddifri .”
Mae’r gefnogaeth yn arbennig o gryf ymysg pleidleiswyr ifanc, mae 72% o bobl 25–34-oed yn cefnogi annibyniaeth, ac ymysg pobl rhwng 18–64 mae 49% bellach o blaid annibyniaeth, sydd yn awgrymu awydd am newid cyfansoddiadol a chynnydd yn hyder pobl Cymru i reoli ei hun fel cenedl annibynnol.
Dywedodd Kiera Marshall, sy’n 26 oed, a fydd yn siarad yn yr Orymdaith nesa dros Annibyniaeth yn Y Barri ar 26 Ebrill:
“Fel person ifanc sy’n byw yng Nghymru rydw i eisiau i benderfyniadau am ein bywydau ni gael eu gwneud yma, nid gan San Steffan. Mae fy nghenhedlaeth i wedi ei diystyru a’i methu oherwydd bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ymhell i ffwrdd, felly dydw i ddim wedi fy synnu o gwbl bod 72% o bobl fy oed i yn cefnogi annibyniaeth erbyn hyn. Dydy e ddim yn syniad ymylol ragor, yn gynyddol mae’n uchelgais am Gymru well a thecach.”
Dywedodd Mark Hooper, un o drefnwyr Gorymdaith dros Annibyniaeth Y Barri:
“Mae’r egni a’r gefnogaeth i’r mudiad yn tyfu, gyda phob gorymdaith, pob sgwrs a nawr, mae data yr arolwg barn yma yn cadarnhau hynny. Bydd yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn Y Barri ar 26 o Ebrill, sydd mewn tair wythnos, yn gyfle i bobl ar draws Cymru i ddod ynghyd i ddangos bod y gefnogaeth yn real, ei fod yn tyfu, ac nad oes ildio arno.”
Bydd YesCymru yn cynnal cynhadledd i’r wasg fory, 4 Ebrill am 1pm yn Eto, 83 Holton Road, Y Barri, CF63 4HG.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.