Wrecsam 3 – 0 Charlton Athletic
gan David Edwards
Llun: Gemma Thomas
Gyda’r gwyliau’r Pasg yn dod i ben, heidiodd miloedd o gefnogwyr Wrecsam, i’r Cae Ras Stók, i chwilio am ‘wy aur’ dyrchafiad.
Ond hyd yn oed cyn i’r giatiau agor a phêl ei chicio, roedd miloedd o barau o lygaid wedi eu gludo i sgriniau ffôn. Pob un ohonynt yn y gobeithio gweld Wycombe yn syrthio ymhellach yn ôl yn y ras am ddyrchafiad awtomatig yn ei gêm gynharach yn erbyn Leyton Orient.
Doedd ddim angen i gefnogwyr Wrecsam fod yn ‘Archimedes’ i ddod i’r datrysiad mathemategol canlynol. I ennill dyrchafiad, roedd angen i Wycombe fethu ennill ac i Wrecsam guro Charlton Athletic… hawdd eh?
Wel… collodd Wycombe ond cyrhaeddodd Charlton Athletic y Cae Ras yn llawn hyder, yn ddiguro mewn chwe gêm, yn cynnwys buddugoliaeth hollbwysig oddi cartref o 4-0 yn Wycombe ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Sôn am awyrgylch! Yn dilyn gorymdaith o amgylch y ddinas cyn y gêm, roedd lleisiau’r cefnogwyr Wrecsam yn barod i floeddio wrth i’r timau ddod allan. O, mam bach. Nawr amdani!
Gan adlewyrchu’r awyrgylch cafwyd dechreuad cyflym i’r gêm gyda’r ddau dîm yn awyddus i fanteisio.
Yna, yn y bymthegfed funud, sgoriodd Ollie Rathbone efo bwled o ergyd hefo’i droed dde i roi Wrecsam yn haeddiannol ar y blaen! Am gôl; 1 – 0 i’r cochion.
Doedd ffyddloniaid Wrecsam prin wedi dychwelyd i’w seddi cyn i foli Sam Smith a’i droed chwith ei gwneud hi’n 2-0.
Ceisiodd Charlton ymateb, ond roedd amddiffyn Wrecsam yn gadarn a’r wal goch o Scarr, Brunt, Cleworth, a’r gôl-geidwad Okwonko yn ddi-ildio.
‘Da ni yma o hyd” – bloeddiodd y dyrfa gefnogaeth frwd. Ymatebodd y cochion â thaclo ffyrnig. Fydde Joey Jones ei hun wedi ymfalchïo yn nhaclo Tyreeco Campbell, wrth iddo fynd i mewn yn gadarn ar Ryan Longman, er iddo dderbyn cerdyn melyn yn y broses.
Wedi pedwar munud o amser ychwanegol, chwibanodd y dyfarnwr am hanner amser a chyfle i dynnu anadl.
Y cwestiwn wedi’r egwyl oedd sut fyddai’r ddau dîm yn ymateb wedi’r seibiant. Cafwyd gornest frwd yng nghanol cae, gyda’r ddau yn gwrthod ildio tir a’r taclo yn ffyrnig.
Doedd ddim disgwyl i’r chwaraewyr allu cynnal y tempo, ac wrth iddynt ddechrau blino, agorodd y gêm i fyny gyda’r meddiant yn llifo o un pen y cae i’r llall.
Gwelwyd fflachiadau blin a drwg dymer rhwng y chwaraewyr a chynnydd sicr ym mhryder y cefnogwyr. Roedd yr ymwelwyr yn synhwyro’r nerfusrwydd ac yn mwynhau cyfnod da o chwarae.
Ond roedd y gefnogaeth gartref yn wych ac yn gyrru’r tîm ymlaen. Ac ar y gair, peniodd super Sam Smith yn bêl i’r rhwyd am drydedd gôl Wrecsam. 3-0 felly a llai na deg munud i fynd. Fydde hi wedi bod yn bosib clywed y floedd yng nghartrefi perchnogion y clwb yn yr Unol Daleithiau a Chanada!
Parhaodd y tîm i chwilio am fwy o goliau; ac ar y chwiban olaf, tyrodd miloedd o gefnogwyr gorfoleddus Wrecsam i’r ddathlu dyrchafiad eu harwyr. Roedd dinas Wrecsam mewn ecstasi, a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn y Bencampwriaeth – am olygfa anhygoel.
Wrecsam:
Rheolwr: Phil Parkinson.
Arthur Okwonko; Max Cleworth; Dan Scarr; Lewis Brunt; James McClean (c); Ryan Longman;George Dobson; Ollie Rathbone;Matty James; Sam Smith(Jack Marriott); Jay Rodriguez(Steven Fletcher)
(Eilyddion)
Callum Burton; Tom O’Connor;Jack Marriott; Steven Fletcher; Ryan Barnett; Eoghan O’Connell, Elliott Lee CPD Charlton Athletic
Rheolwr: Nathan Jones
Will Mannion; Joshua Edwards; Macaulay Gillesphey; Lloyd Jones(Micah Mbick); Kayne Ramsay; Greg Docherty; Conor Coventry; Tyreeco Campbell;Karoy Anderson(Daniel Kanu); Tennai Watson(AlexGilbert); Matty Godden
(Eilyddion) Dean Bouzanis; Danny Hylton; Alex Gilbert; Alex Mitchell; Michael Mbick; Tom Mcintyre; Daniel Kanu
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Diolch Deio,
Wedi mwynhau darllen 👍🏼