Wrth i athrawon Cymru gael gwybod bydd ‘na oedi i’r cwrs TGAU Hanes newydd oedd fod i’w gyflwyno mewn ysgolion fis Medi, mae’r dudalen flaen yn rhoi lle i wneud y pwynt eto am fethiant dysgu digon am ein hanes ni fel Cymry.
Y colofnydd Gari Wyn Jones sy’n chwifio’r faner y tro hwn wrth gyfeirio at bwysigrwydd gwybod ein hanes i ddyfodol y byd busnes Cymreig.
Meddai: “…fe gollwyd cyfleoedd gwerthfawr i roi Cymru ar fap y byd. Does dim ond rhaid edrych ar y diffyg sylw a roddwyd i leoliadau pwysig fel rhai o’r cestyll Cymreig, llys Sycharth, beddrodau Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd ym Mangor i enwi dim ond llond llaw. Mae’n ffaith eironig bod cestyll y concwest Seisnig yn cael digon o barch a sylw er gwaethaf bob cost o’u cynnal.”
Sôn am ei nefoedd bersonol ar y ddaear mae’r colofnydd Lyn Ebenezer. Ymhle dwch? – wel, darllenwch amdano yn rhifyn Mawrth. Ond cliw bach – mae un o feirdd mwyaf Cymru yno, nid nepell o fedd cardotyn dienw!
Ac wrth i brisiau tai ostwng mwy na 12% mewn un sir yng Nghymru mae perchnogion tai haf a rhai yn y diwydiant twristiaeth wedi lambastio’r hyn maen nhw’n ei ddisgrifio fel mesurau ‘gwrth-Seisnig’ y tu ôl i’r cwymp. Tybed?
Meddai llefarydd Plaid Cymru dros Dai a Chynllunio, Siân Gwenllian AS: “Os yw’r newyddion yma’n dangos bod cartrefi yn mynd yn fwy fforddiadwy i bobl leol, yna bydd llawer yn ei groesawu’n gynnes.’ Darllenwch fwy yn Y Cymro.
A be am y dihirod Butch Cassidy a’r Sundance Kid yn cael eu cysylltu â digwyddiadau ymysg Cymry’r wladfa. Darllenwch y gwir yn erthygl yr hanesydd Mel Hopkins.
Mae rhifyn Mawrth ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.