Rhifyn Chwefror Y Cymro

Newyddion

“Byddai neb wedi dymuno i bethau ddigwydd fel y gwnaethant” – geiriau Prif Weithredwr newydd S4C wrth edrych nôl dros y blynyddoedd diweddar.

Ond mae cyfle gwych erbyn hyn meddai Geraint Evans – mewn erthygl ar gyfer y Cymro – i greu rhywbeth arbennig iawn. Meddai: “…gyda phob her mae cyfle. Ac wedi edrych o’r newydd ar ein gwerthoedd a’n diwylliant dw i wir yn credu ein bod ni mewn lle llawer cryfach nawr nag oedden ni cynt.” Darllenwch am ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn y rhifyn yma.

A phwy sy’ di gweld y ffilm ‘A Complete Unkown’ am Bob Dylan. Wel – yn ôl y sôn – roedd y dyn ei hun yn byw yng Nghymru yn Llanddewi Brefi am gyfnod yn y chwedegau. Be ddwedsoch chi? – oedd mi oedd o, yn ôl yr hanes sy’n cael ei adrodd gan ein colofnydd Lyn Ebenzer y mis hwn. Meddai: “Yn byw ar fferm Gogoyan ger Cefn y Bedd oedd John Griffiths. Cofiai hafau braf 1969 pan ymgasglai criw o gymdogion ar Bont Gogoyan am sgwrs. Weithiau byddai gŵr tawel ar ei feic yn oedi gyda nhw i wrando, er na thorrai air â neb. Roedd John yn sicr mai Bob oedd hwnnw.” Darllenwch fwy am stori od iawn…

Mae stŵr a blinder am golli gwasanaethau Cymraeg ar orsafoedd radio annibynnol yng Nghymru. Digon teg hefyd. Ond wrth i bawb bwyntio bys, ble mae’r bai go iawn am hyn i setlo. Does gan ein colofnydd Heledd Gwyndaf ddim unrhyw fymryn o amheuaeth. Darllenwch ei barn yn y rhifyn yma.

Be am drio byw bywyd call o ddydd i ddydd ar strydoedd Kyiv ymysg yr holl erchylltra presennol? Cawn erthygl arbennig o Wcráin yn disgrifio’r union brofiad yma.

“Rwy’n araf anghofio bod bywyd normal heb ryfel yn bodoli” meddai Nonna-Anna Stefanova.

Mae rhifyn Chwefror ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau