Rhifyn Ionawr Y Cymro

Newyddion

Faint o arian sydd ddigon i wneud gwahaniaeth? Faint sy’n mynd i sortio pethau – a faint eith i mewn i dwll di-waelod nad oes modd byth ei lenwi?

Pwynt dadleuol sy’n anodd ei ystyried o ran ffigyrau yn unig. Ond dyna sy’n cael y sylw ar dudalen flaen rhifyn Ionawr ar ôl y cyhoeddiad bod gan Lywodraeth Cymru £1.5bn ychwanegol i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus yn ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Rheswm i lawenhau … hmm ddim i bawb. Galw’r gyllideb yn ‘anuchelgeisiol ac yn disgyn yn brin o’r hyn sydd ei angen i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus’ wna Plaid Cymru. Darllenwch y stori i gyd yn y rhifyn yma.

Edrych yn ôl ar ddyddiau da mae Sharon Morgan – ar oes aur diwydiant ffilm Cymru – a chyferbynnu’r sefyllfa bresennol â’r hyn sy’n digwydd yn Iwerddon. Meddai: “Falle mai’r ffordd orau i’r llywodraeth wireddu ei dymuniad o greu miliwn o siaradwyr yw dod o hyd i ffyrdd i ariannu S4C a gweddill y sector ffilm a theledu yn iawn, a chadw at ei haddewid i ddatganoli darlledu.” Darllenwch ei barn yn rhifyn Ionawr.

Edrych yn ôl mae’r colofnydd Cadi Edwards hefyd – ar flwyddyn o gyflawni cymaint ond hefyd delio a thristwch a cholled. Meddai: “…tra yr oeddwn yn arnofio’n hamddenol ar don llawenydd, fe ddaeth newyddion torcalonnus i chwalu’r heddwch yna’n deilchion.”

A be am dref ddel Amwythig – jyst ar draws y ffin. Mae ei hanes wedi ei gyplysu â’n hanes ni ers canrifoedd ond nid wastad ar ffurf hapus chwaith. Darllenwch am y berthynas anesmwyth yng ngholofn Melfyn Hopkins ac am sut cafodd brawd Llywelyn ein Llyw Olaf ei ladd yno yn y ffordd fwyaf erchyll posibl. Nid ar gyfer y gwangalon!

Mae’r rhifyn ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau