Lleisiau Newydd
‘Mae blaenoriaethau Llafur Prydain a’r Ceidwadwyr yn Llundain a dyna ble mae gwraidd y broblem’
BARN – gan Deian ap Rhisiart
Yr ydym yn trafod lle Cymru yn yr ymerodraeth Brydeinig yn aml.
Er fod rhai Cymry wedi elwa ohoni – drwyddi draw rhywle â phobl i’w ecsploetio oedd Cymru.
Mae’r Ymerodraeth wedi hen fynd ond ydan ni’n dal i golli biliynau trwy fod yn rhan o’r UK ôl-imperialaidd?
Mae pwerau trefedigaethol yn hanesyddol wedi echdynnu adnoddau o’i hymylon er mwyn cryfhau a bwydo’r canol.
Fe ddigwyddodd gyda’r Rhufeiniaid yn Ewrop, y Sbaenwyr a’r Portiwgeaid yn Ne America, y Belgiaid a’r Ffrancwyr yn Affrica a’r Prydeinwyr yn India ayyb.
Fe ddigwyddodd hyn nid i’r un graddau yng Nghymru, ond fe ddigwyddodd i bweru ac atgyfnerthu’r chwyldro diwydiannol a’r craidd, gyda’n hadnoddau naturiol boed yn haearn, glo, llechi, aur, copr ayyb yn cael eu hechdynnu.
Roedd popeth yn cael ei sugno o Gymru i gyfoethogi Llundain a llawer o ardaloedd llewyrchus Lloegr.
Yn amlwg, nid yw Cymru wedi dioddef yr un graddau o ormes â llawer o wledydd De America, India, Iwerddon ac Affrica o bell ffordd ond fe ddioddefodd miloedd ar filoedd o’n chwarelwyr a’n glowyr a’u teuluoedd galedi o’r herwydd.
Yr un yw’r patrwm o echdynnu adnoddau naturiol o’r ymylon i’r craidd boed yma yng Nghymru neu dramor.
Mae ein dŵr ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’i ddefnyddio trwy gronfeydd dŵr i ateb anghenion rhannau o Loegr – nid oes ond angen edrych ymhellach na Llanwddyn, Elan a Chwm Celyn fel enghreifftiau i gyflenwi anghenion diwydiannol dinasoedd Lerpwl a Birmingham ar y pryd.
Yr oedd cymunedau cyfan yn ysglyfaeth cyfalafol er mwyn bwydo’r anghenfil.
Y cwestiwn mawr yw, a ydym ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain yn gweld y sefyllfa’n newid? Mae’r Ymerodraeth bellach wedi diflannu ond oes yna degwch bellach? Ydi hyn yn berthnasol i ni heddiw? Yn sicr. Mae ein cronfeydd dŵr yn parhau i gyflenwi biliynau o litrau o ddŵr am ddim yn flynyddol i ddinasoedd mawr Lloegr.
Erbyn hyn, mae’r diwydiant glo a’r llechi wedi diflannu o’r tir ond rwan ynni’r haul, gwynt a niwclear sy’n hawlio’r sylw ac mae diogelwch ynni yn y penawdau.
Mae Cymru’n agored i bwerau globaleiddio er mwyn iddynt fedru ecsploetio ein hadnoddau unwaith yn rhagor. Wedyn, mae pobl yn cwyno ein bod yn rhy dlawd i redeg pethau ein hunain!
Mae’n gylch dieflig sy’n ailadrodd ei hun drosodd a throsodd.
Ar Ynys Môn, mae arweinwyr gwleidyddol yr ynys yn barod i gofleidio technoleg arbrofol newydd bwy bynnag sydd isio trïo’i lwc efo adeiladu atomfa niwclear arall yno.
Ond faint o swyddi lleol fydd yna? Faint fyddan ni’n elwa go iawn? Pa mor ddiogel fydd hyn?
Pa mor niweidiol fydd hyn i’r Gymraeg? Llawer o ofnau.
Er hynny, mae yna lygedyn o obaith gyda chynllun egni llanw Morlais yn dod i oed – mae angen mwy o hyn.
O ran ein tirwedd, mae yna gwmnïau mawr yn prynu cannoedd o aceri o dir i blannu coed er mwyn dadwneud ôl carbon mewn sefyllfaoedd eraill.
Da i Gymru neu dda i gydwybod y cwmni sy’n plannu coed?
Er mwyn gwasanaethu’r grid cenedlaethol Prydeinig, mae cynlluniau i adeiladu llinell hir o beilonau newydd o’r gogledd i’r de. Bechod nad ydynt yr un mor awyddus a phenderfynol i adeiladu rheilffordd o’r de i’r gogledd!
Mae’r tywysog William o deulu brenhinol Windsor yn gwneud miliynau ar gorn trwyddedi prosiectau ar ein harfordir a gwely’r môr, diolch i Ystâd y Goron.
Nid oes ceiniog o elw’r ystâd hon yn mynd yn uniongyrchol i Gymru, er fod Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yn gytûn fod angen datganoli Ystâd y Goron i Senedd Cymru. Mae’r Blaid Lafur yn ganolog yn gwrthod hyn.
Dyma ble mae’r gwir rym yn gorwedd a nhw sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig – mwy o bres taclus i’r Trysorlys i atgyfnerthu’r craidd.
Mae’r elw sy’n deillio o dwristiaeth hefyd yn aml yn diflannu i gyfrifon banc cwmnïau aml-wladol neu’n gadael Cymru – trwy Air BnB ac ati ond mae cyflwyno’r dreth ar dwristiaeth yn rhywbeth i’w groesawu.
Mae’r treth bremiwm hefyd ar ail dai yn sicrhau incwm angenrheidiol ar gyfer awdurdodau lleol.
Ond mae angen mynd ymhellach. Beth am gwtogi ar Air BnB led-led Cymru er mwyn cadw’r elw yng Nghymru?
Beth am godi ffi bychan ar ddringo’r Wyddfa? – mae dros 600,000 yn dringo mynydd uchaf Cymru yn flynyddol!
Fe sefydlwyd mentrau cymunedol mewn sawl cymuned ar hyd a lled Cymru dros y deugain mlynedd diwethaf i sicrhau fod elw yn aros yn ein cymunedau ac fe ddylai elw pob ffarm solar neu wynt, prosiect llanw neu gynllun dŵr fynd i’r gymuned leol neu i Senedd Cymru, yn ddieithriad.
Ble mae’r Blaid Lafur i warchod ein buddiannau fel gwlad?
Mae blaenoriaethau Llafur Prydain a’r Ceidwadwyr yn Llundain a dyna ble mae gwraidd y broblem.
Mae yn fater hollbwysig i ba bynnag adain wleidyddol yr ydych yn perthyn – boed y dde neu’r chwith. Senedd Prydain a San Steffan sy’n cael y gair olaf bob tro.
Rydym yn cael ein trin yn ymylol ac ar yr ymylon, gyda’n gwasanaethau cyhoeddus yn gwegian, diffyg tai a thlodi yn gwaethygu.
Yr ydym yn byw ar friwsion fel dywedodd y Tystion ar droad y mileniwm ac wastad wedi bod, heb uchelgais i greu gwlad well.
Mae’r diffyg addysg o’r hyn sy’n digwydd o dan ein trwynau yn broblem fawr. Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw annibyniaeth.
Y ni fydd y craidd a’r canol wedyn, nid yn byw ar yr ymylon, ein blaenoriaethau ni fydd yn cyfrif, nid unrhywle arall. Ni fyddwn wedyn yn gwasanaethu nac yn cyflenwi rhywbeth am ddim i neb arall.
‘Gwesty Cymru, does neb yn talu’ chwedl Geraint Jarman ym 1979.
Er ei fod wedi’i ddweud droeon, mae angen i hynny newid ar frys.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.