Gêm gyfartal i Wrecsam ar y Stôk Cae Ras

Chwaraeon Newyddion

Gêm werth ei gweld – yn  llygad y storm

Wrecsam 1 Dinas Birmingham 1

gan David Edwards

Yn ôl pob sôn, y cartref yw’r safle mwyaf diogel yn ystod storm, lle mae’r perchnogion yn teimlo’n ddiogel, a ffyddlon y byddent yn osgoi dinistr.

Yn wir, ar noson aeafol a gwyntog, roedd perchnogon y Stôk Cae Ras, CPD Wrecsam, yn falch o amddiffyn eu record gartref rhag bygythiad storm Ëowyn o’r gorllewin… a’r corwynt o ganolbarth Lloegr – Clwb Pêl droed Dinas Birmingham, a gyrhaeddodd ar frig ton ac yn eistedd yn bert ar ben  y cynghrair gyntaf.

Ar eu cynffonnau – yn y trydydd safle – roedd Wrecsam yn edrych i gadw’r gynnen am ddyrchafiad awtomatig. Oedd, roedd y storm berffaith eisoes yn berwi.

Cafwyd dechrau tanllyd wrth i’r ddau dîm ymosod yn bwrpasol, cyn setlo i lawr i geisio cadw meddiant.

Cafodd gwaith caled Wrecsam oddi ar y bêl ei wobrwyo o’r diwedd gydag ergyd ryfeddol o 20 llath gan y chwaraewr canol cae Ollie Rathbone, wrth iddo gyrlio ergyd isel gyda’i droed dde i’r gornel isaf. 1-0 i Wrecsam felly yn y 9fed munud.

Cyn bo hir beth bynnag, roedd Dinas Birmingham yn gyfartal gyda Alfie May yn bwndelu’r bêl tu hwnt i gôl-geidwad Wrecsam Arthur Okwonko. 1-1 yn yr 19eg munud.

 

David Edwards yn y gêm neithiwr

Llifodd y gêm am weddill yr hanner cyntaf, gyda’r ddau dîm yn chwilio am agoriad. Y gŵr hwnnw, Ollie Rathbone eto ddaeth agosaf, yn saethu gyda’i droed chwith ychydig dros y bar ym munud olaf yr hanner. 1-1 hanner amser.

Wrecsam a gychwynnodd yr ail hanner yn ymosod ochr enwog o’r Stôk Cae Ras – y ‘Tech End’. Bu bron i’r pwysau parhaus – agor y clo ddwywaith mewn mater o funud wrth i Ryan Barnett achosi problemau gyda chroesiad i Ryan Allsopp cyn i James McClean ddod yn agos gyda pheniad o gic gornel. Eto, Ryan Allsopp ddaeth i achub Birmingham.

Er iddyn nhw drio, ni allai ffyddloniaid Wrecsam gario’u harwyr i ddod o hyd i’r gôl fuddugol wrth i’r tîm cartref wthio gyda’u holl nerth. Roeddent yn erbyn tîm ystyfnig o Birmingham a gloddiodd yn ddwfn i atal y pwysau aruthrol gan Wrecsam. Yn y diwedd, fe setlodd y ddwy ochr am gêm gyfartal ddifyr 1-1.

 Wrecsam:

Rheolwr: Phil Parkinson.

Arthur Okwonko; Max Cleworth; Dan Scarr; Tom O’ Connor; James McClean (c); Ollie Palmer (Steven Fletcher); George Dobson; Ryan Barnett; Elliott Lee (Paul Mullin); Ollie Rathbone; Matty James.

(Eilyddion)

Howard; Mullin; Marriott; Cannon; Fletcher; Revan;O’Connell

Dinas Birmingham

Rheolwr: Chris Davies

Ryan Allsopp; Alex Cochrane;Ben Davies; Cristoph Klarer;Ethan Laird; Taylor Gardner-Hickman; Marc Leonard; Jay Stansfield;Lyndon Dykes; Scott Wright (Keshi Anderson); Alfie May (Lucas Jutkiewicz)

(Eilyddio)

Peacock-Farrell; Hanley; Bielik; Anderson; Harris; Yokoyama; Jutkiewicz

 

Dorf: 13, 237 (1,280 Birmingham)

Chwaraewr y gêm: George Dobson

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau