Pa ddyfodol sydd i ffermydd Cymru ’dwch?
Wel, un digon tywyll yn ôl y ffermwr a’r personoliaeth cyfryngau cymdeithasol Gareth Wyn Jones.
Ei farn bersonol ar y sefyllfa yng nghefn gwlad Cymru sy’n hawlio’r sylw ar y dudalen flaen y mis yma ac mae cyfweliad helaeth tu mewn hefyd.
Meddai Gareth: “Ond os ydi nifer y ffermydd teuluol Cymreig am ddirywio’n sylweddol, ac mae hynny yn berygl go iawn rŵan, be ydi dyfodol y cymunedau Cymraeg sy’n gwarchod ein diwylliant a’n hanes?”
Darllenwch ei eiriau cryf ar yr holl wrthdaro yn y byd amaeth cyfredol.
Mae’r bobl wedi siarad ac mae Donald Trump wedi ennill.
Do wir – er bod y ffaith dal fel ei fod yn styc yng ngyddfau’r cyfryngau ‘rhyddfrydol’ fel ’sgodyn enfawr. Ond be feddylia’r fuddugoliaeth i ni yma yng Nghymru? Ceith effaith sicr ar ein byd ni oll a’r economegydd Dr Edward Thomas Jones sy’n trafod sut. Ac mae gan Dafydd Iwan a Bethan Jones Parry hefyd rhywbeth i ddweud ar y pwnc.
Mae mwy a mwy o alwad i Gymru gael cydraddoldeb â’r Alban. Meddai Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru: “Mae Cymru’n haeddu ei chyfran deg. Mae ein galwad am gydraddoldeb gyda’r Alban yn ymwneud â sicrhau’r pwerau sydd wirioneddol eu hangen i wella bywydau’r bobl sy’n byw yma. Mae’n hen bryd i ni gael cae chwarae gwastad o fewn y Deyrnas Unedig.” Darllenwch mwy am ymgyrch y Blaid yn rhifyn Rhagfyr.
Mae erthygl ddiddorol hefyd y mis yma am frwydr fawr Owain Glyndŵr yn erbyn brenin Lloegr a fyddai wedi newid siâp ein gwlad am byth – a pham (ar y funud olaf) – na ddigwyddodd. Yr hanesydd Mel Hopkins sy’n egluro.
Nadolig Llawen i bawb a mwynhewch Cymro fis Rhagfyr.
Mae’r rhifyn ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.