Anrheg Nadolig cynnar i Fenter Ysgol Cribyn

Newyddion

Mae’r Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar yng Nghribyn gyda’r newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £195,000 i Fenter Ysgol Cribyn.

“Dyma beth yw anrheg Nadolig werth ei chael” oedd ymateb Alan Henson, cadeirydd y fenter.

“Amser hyn llynedd mi o’dd llawer ohonom ni’n becso gallai’r ysgol gael ei gwerthu i brynwr preifat a’i golli am byth i’r gymuned. Diolch i’r penderfyniad hwn ac i’r holl gydweithio llawen a llwyddiannus yng Nghribyn dros y flwyddyn ddiwetha’ y’n ni’n edrych mlaen yn hyderus at wneud 2025 yn flwyddyn newydd wirioneddol dda!”

Peidiodd Ysgol Cribyn fod yn ysgol bentre’ yn 2009. Wrth i argyfwng COVID daro, trowyd yr ysgol yn storfa offer hylendid i’r sir gan adael ond un stafell ddosbarth bach ar gyfer defnydd y gymuned.

“Rhwng effaith COVID a prin unman i gwrdd mi o’dd pethe’n edrych yn dywyll ’ma” meddai Alan. “O’dd raid i ni ’neud rhywbeth neu fydde cymdeithas Gymraeg fyrlymus yr hen Gribyn wedi dod i ben.”

Dan arweiniad Cymdeithas Clotas – mudiad a sefydlwyd yn 2009 i wrthweithio effeithiau negyddol cau’r ysgol – ymateb yn gadarnhaol wnaeth y gymdogaeth.

Fis Ionawr eleni, pwyswyd yn llwyddiannus ar gabinet Ceredigion i roi cyfle i’r pentre’ ei phrynu. Yna, wedi ffurfio Cymdeithas Budd Cymunedol codwyd dros £70,000 gan gyfranddalwyr lleol mewn cwta 6 wythnos.

Ben Lake AS yn mwynhau yn y noson lawnsio

A thra’n aros am benderfyniad Llywodraeth Cymru mae’r brwdfrydedd newydd yng Nghribyn wedi gweld sefydlu clwb te deg llewyrchus (bob bore dydd Mawrth yn yr ysgol), gŵyl newydd (Gŵyl Werin Ffos Davies) ynghyd â gwasanaeth bws bro newydd (Y Siarabang-bang!) i lenwi’r bwlch a adawyd gan Bwcabus.

Daw’r dyfarniad o £195,000 at brosiect Ysgol Cribyn o gronfa Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.

I gwblhau’r gwaith o gyd-brynu’r ysgol, gosod to newydd arni a’i throi’n ganolfan gymdeithasol ac addysg leol mae dal angen sawl can mil ar y fenter.

“Oes, ma’ sbel o ffordd ‘da ni i fynd ’to” meddai Alan. “Ond ma’ pethe’n siapio ’ma nawr a fydd dim prinder llawenydd yr ŵyl yng Nghribyn eleni.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau