Lleisiau Newydd
gan Y Ddysgwraig
Mae’r papurau newydd, a hyd yn oed y BBC yn llawn cyngor ar sut i ddelio hefo gwahanol ddilemâu’r tymor.
Sut i wisgo’r goeden Nadolig yn seiliedig ar ba gynllun lliw sy’n ffasiynol ar hyn o bryd. Nid ‘Peach Fuzz’ rŵan mae’n debyg.
Be i’w wisgo i barti Nos Galan, pam na ddylwn i fynd i barti, pam na ddylech chi ddisgwyl mwynhau’r parti, sut i gusanu rhywun yn y parti, ble i fynd os nad ydw i’n mynd i barti ond eisiau mynd i rywle, pam ddylwn i roi’r gorau i ddiod ar gyfer mis Ionawr, pam mae mis Ionawr yn amser ofnadwy i roi’r gorau i unrhyw beth, deg syniad am addunedau – a pham mae addunedau yn syniad drwg.
Gawn ni weld sut hwyl cawn ni hefo’r penblethau ’ma i gyd.
Nid ydym yn mynd i barti Nos Galan. Dwi’m yn meddwl fod hynny oherwydd bod ein ffrindiau wedi penderfynu peidio â’n gwahodd ni. Dwi’m yn meddwl fod yna bartïon!
Efallai bydd pobl sy’n byw o fewn pellter cerdded i’w gilydd yn mynd i rannu potel o siampên hwyrach – ond dyna ni. Gan y byddwn adref byddwn yn gwisgo’r un pethau rydyn ni’n eu gwisgo fel arfer yng nghanol y gaeaf. Rhywbeth gweddol gynnes gall y cathod grafangu a driblo drosto. Ac mae’r cwestiwn o gael rhywun i gusanu wedi ei ddatrys gan fy mod wedi cwrdd â fo dros ddeng mlynedd yn ôl a dwi dal efo fo (cynllunio gwych ar fy rhan i). Felly cyn belled nad oes gennym ni annwyd – mae’r gusan yn sicr am ddigwydd.
Roeddwn i’n meddwl efallai y byddwn yn gwneud rhai addunedau synhwyrol yn 2025.
Wedi’r cyfan, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gor-addo’n wyllt o ran addunedau Blwyddyn Newydd ac rydw i wedi syrthio i’r trap yma sawl waith yn y gorffennol.
Y llynedd penderfynais wneud yr her 1000 milltir, lle rydych yn addo cerdded 1000 o filltiroedd yn ystod y flwyddyn. Dim ond ychydig llai na 3 milltir y dydd yw hynny; ym mis Ionawr roedd hyn yn bosib, ond erbyn mis Mai roeddwn ar ei hol hi go iawn, felly rhoddais y ffidl yn y to.
Dwi am dacluso’r ystafell sbâr a’r sied y flwyddyn yma. Wna i ddychmygu fy mod yn symud tŷ, a gofyn i fi’n hun os fedrai fyw heb yr eitem… os ‘na’ ydi’r ateb, wna i ei daflu yn sicr.
Felly, 1000 o eitemau fydd hi eleni yn lle 1000 milltir.
Allan gyda’r hen… efallai y byddaf hefyd yn gwneud rhestr o leoedd yr hoffwn fynd iddynt, ac yn mynd ati i ddal i fyny â phobl amrywiol. I fod yn onest – yr unig beth ddylwn i roi’r gorau i yw siocled ond dydw i ddim ar fin gwneud hynny’n fuan!
Penderfyniad arall yw rheoli fy mhryderon – i boeni llai. I roi’r gorau i boeni am y gorffennol a’r dyfodol a byw yn y foment. Oni fyddai hynny’n rhywbeth?
Cyrraedd cyflwr o oleuedigaeth a theimlo mor hapus. Meddwl llonydd – dim poeni am ddyddiadau’r biliau misol a’r MOT sydd ar fin digwydd!!
Ond wedyn, mae’n debyg os na fyddwn yn poeni am unrhyw beth, ni fyddem byth yn gwneud unrhyw beth am y problemau!
Iawn, a allwn ni gytuno ar un peth felly?
Dylai’r gwyliau fod yn amser i ymlacio. Gadewch i ni gymryd seibiant (rydym yn ei haeddu).
Ac o ran 2025, pwy a ŵyr be sy’ rownd y gornel? Mae un peth yn sicr – os wna i ddim cyrraedd y ganolfan ailgylchu cyn Ionawr y 1af bydd sied yr ardd yn byrstian hefo llanast. Mwynhewch y gwallgofrwydd oll.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.