Mae sioe diwedd y flwyddyn Y Cymro (2024) o Ysgol David Hughes rwan ar gael i’w gwylio ar You Tube.
Mae nifer o bynciau yn cael eu trafod ar y sioe gyda disgyblion ysgol David Hughes, Porthaethwy, Ynys Môn.
Ymysg y pynciau trafod mae rheolau’r Eisteddfod, pwer y cyfryngau cymdeithasol, rhyddid barn, ydi ysgolion yn rhoi gormod o bwyslais ar fynd i Brifysgol yn lle edrych ar opsiynnau eraill fel dysgu sgiliau/cael gwaith neu ddechrau busnes, a pha bethau eraill sy’n poeni pobol ifanc y dyddie yma?
Y disgyblion ydi (o’r chwith i’r dde): Ynyr Jones, Glwys Williams, Enlli Pennant a Mari Prys.Y cyflwynnydd ydi Owain Llŷ.
Hon ydi’r rhaglen olaf yn y gyfres arbennig yma o Sioe Y Cymro, sydd wedi bod yn rhedeg yn fisol ers mis Mehefin 2024, gan drafod amrywiaeth o bynciau a materion cyfoes gyda nifer o wahanol bobol dros Gymru.
Mae Sioe Y Cymro yn gyd-gynhyrchiad rhwng Y Cymro / Cyfryngau Cymru Cyf a chwmni annibynnol Gweledigaeth. Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.