Llun: Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru gyda Will Smith, Ysgol Gynradd y Garn, Hwlffordd
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgelu’r dyluniadau buddugol ar gyfer ei chystadleuaeth dylunio cardiau Nadolig.
Gwahoddwyd plant ysgolion cynradd ledled Cymru i gyflwyno cynllun ar gyfer cerdyn Nadolig ar y thema ffermio er budd Ambiwlans Awyr Cymru, elusen bresennol yr undeb.
Rhannwyd y gystadleuaeth yn ddau gategori – dyluniadau Cymraeg a Saesneg – gyda disgyblion o Sir Benfro yn dod i’r brig yn y ddau gategori.
Enillwyd y categori Saesneg gan Will Smith, 10 oed, o Ysgol Gynradd Y Garn, Hwlffordd. Enillydd y categori Cymraeg oedd Keira Lewis, 9 oed, o Ysgol Gynradd Arberth, Sir Benfro.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman:
“Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiant ysgubol unwaith eto ac wedi denu cannoedd o geisiadau o bob rhan o Gymru. Roedd y safon yn uchel iawn a bu’r dasg o ddewis enillwyr yn anodd iawn i’r beirniaid.
“Hoffwn ddiolch i bob plentyn a gymerodd ran yn y gystadleuaeth – ni fyddai’r gystadleuaeth wedi bod yn gymaint o lwyddiant heb eu bod wedi cymryd rhan. Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i’r staff yn yr ysgolion ar hyd a lled y wlad a gynorthwyodd Undeb Amaethwyr Cymru i gynnal y gystadleuaeth.
“Rhoddwyd cyfle i blant mewn ardaloedd trefol a gwledig yng Nghymru gysylltu â’r diwydiant ffermio a mynegi eu meddyliau mewn ffordd greadigol a lliwgar. Rwy’n credu bod hi’n hanfodol ein bod ni fel ffermwyr yn cynnal cysylltiad cryf â phobl ifanc fel eu bod yn deall y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yn y wlad hon.”
Gellir prynu’r cardiau naill ai o brif swyddfa UAC drwy ffonio 01970 820820 neu o swyddfeydd sirol Undeb Amaethwyr Cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.