Brwydr feunyddiol ein busnesau bach yng Nghymru
BARN gan Gruffydd Evans a Tomos Jones, Blwyddyn 10, Ysgol Glan Clwyd
Fel y gwelwn yn fwy ac yn fwy aml y dyddiau hyn mae cwmnïau mawr yn symud i drefi bach.
Er bod nifer yn credu bod hyn yn beth cadarnhaol ac yn helpu trefi, yn ein barn ni pan edrychwn yn fanylach gwelwn yr effaith negyddol gall y busnesau hyn weithiau gael.
Wrth i ni ystyried ein bod ni yng nghanol cyfnod economaidd anodd ym Mhrydain mae hyn hefyd yn ei gwneud hi’n anodd i gwmnïau bach i oroesi. Mae busnesau bach fel hyn yn hanfodol bwysig i dref fel Dinbych, mae’n siapio’r dref ac yn un o’r pethau sydd yn gwneud ein trefi yn unigryw ac yn arbennig.
Mae’r cyfraniad mae’r busnesau bach lleol yn ei wneud i unrhyw gymuned yn hynod bwysig a rhywbeth hwyrach na fyddai’r busnesau mawr yn debygol o ystyried.
Enghreifftiau o hyn a welwn yn aml yw pethau fel nawdd i dimau chwaraeon lleol. Mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cymryd rhan mewn ystod eang o chwaraeon. Tybed a fyddai busnesau mawr y wlad yn ystyried cefnogi timau bach lleol yn yr un ffordd?
Yn sicr mae angen i ni amddiffyn ein busnesau lleol ymhob ffordd y gallwn.
Rhaid cofio bod llawer ohonynt yn cael eu cadw gan bobl sy’n byw yn y gymuned wrth reswm.
Pobl rydyn ni yn ei adnabod, sydd â chysylltiadau â thîm pêl-droed neu dîm rygbi lleol ac sydd eisiau cefnogi cymaint ag sydd bosib a chreu eto’r cyfleoedd y cawson nhw pan oeddent yn blant.
Mae’r bobl yma eisiau’r gorau i’r genhedlaeth leol nesaf. Anodd weithiau yw gweld y busnesau mawr yn rhannu’r un meddylfryd. Yn naturiol mae eu blaenoriaethau yn wahanol ai prif bwrpas yw creu arian yw cwmni enfawr.
Gyda’r busnesau mawr hyn yn mewnfudo i drefi bach maent yn achosi cystadleuaeth i’r busnesau bach ac o ganlyniad, yn ei gwneud hi’n anodd iawn iddynt barhau.
A all y busnesau mawr hefyd gael dylanwad negyddol ar y stryd fawr yn yr ardal?
Mae trefi marchnad yn hanesyddol ac fel arfer mae cyfle i bobl gwrdd â chymdeithasu ar y stryd wrth siopa.
A oes yr un ymdeimlad wrth siopa mewn un man yn unig? Yn ein barn ni mae’n lleihau’r ymdeimlad o gymuned.
Pawb i’w farn wrth gwrs ond – ynghyd a’r manteision amlwg – mae’n bwysig ystyried yr anfanteision ehangach sy’n gysylltiedig â busnesau mawr yn symud i mewn i ardal leol.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.