A ydym weithiau’n rhy gyflym i gyfieithu popeth yn ein hiaith yn syth bin oherwydd ein bod yn meddwl mai dyna sy’n ddisgwyliedig ohonom?
Dyna farn y colofnydd Heledd Gwyndaf y mis yma beth bynnag sydd â dadl gryf.
Meddai: “Mae’n rhaid glynu mwyfwy at bethau yn hyderus unieithog gan adael y rhai nad sy’n medru’r Gymraeg i ddyfalu beth a ddywedir gan ddymuno medru’r iaith. Wnawn nhw fyth o hynny wrth i ni gyfieithu pethau yn wael iddyn nhw bob cyfle”
O, a does dim byd yn bod ar y plismyn iaith chwaith… darllenwch fwy yn rhifyn Medi.
Mae go lew o drafod am y Steddfod hefyd yn y rhifyn – o’r ymateb hyfryd i anrhydeddu Noel Thomas i’r ddadl ddiderfyn am y Fedal Ddrama ddiflanedig. Mae gan ambell un o’r colofnwyr farn gryf am y pwnc wrth i’r distawrwydd llethol barhau. Meddai Lyn Ebenezer: “Beth wnaeth ddigwydd i’r Gwir yn Erbyn y Byd? A oes heddwch? Na, ddim nes cawn ni wybod y gwir, a dim ond y gwir.”
Darllenwch lawer mwy am y dirgelwch.
Ac mae’r colofnydd Cadi Edwards yn gandryll efo’i hun. Pam felly? Wel am adael iddi ei hun syrthio mewn cariad eto ar ôl addo mai’r bywyd sengl oedd iddi o hyn ymlaen! Cewch fwy o hanes, helbul a hwyl byw yn y byd rhamant cyfoes yn ei cholofn y mis yma.
A phryd – ac ym mha bentref bach – oedd yr ornest bistolau olaf yng Nghymru a ddiweddodd gyda marwolaeth un o’r rheiny’n cymryd rhan tybed? Darllenwch erthygl hanes Mel Hopkins i ffeindio allan.
Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Medi Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.