Mae teyrngedau wedi eu talu i’r gohebydd moduro Huw Thomas, sydd wedi marw yn 73 oed.
Huw oedd colofnydd moduro Y Cymro a bu’n gohebu ar foduro a’r diwydiant ceir i nifer o bapurau dros y blynyddoedd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam ac yna Ysgol Uwchradd Grove Park.
Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r gyfraith cyn cael ei benodi’n ddarlithydd ar y gyfraith ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.
Roedd yn fab i’r diweddar Barchedig T. Glyn Thomas a’i wraig Eleanor.
Dywedodd Uwch-Olygydd Ymgynghorol Y Cymro Barrie Jones: “Trist iawn oedd clywed y newyddion am Huw. Roedd ei erthyglau yn rhan bwysig iawn o’r Cymro bob mis.
“Mi oedd yn wybodus tu hwnt ynglŷn â cheir a’r diwydiant ceir ond roedd hefyd bob amser yn gallu gwneud cynnwys ei golofn yn ddiddorol i bawb gwaeth beth oedd eu gwybodaeth o foduro. Cydymdeimlwn â’r teulu ar yr adeg drist hon.”
Roedd Huw yn rhan o Gymdeithas Ysgrifenwyr Moduro Cymru.
“Roedd Huw yn gadael argraff ar bawb roedd e’n dod i gysylltiad â nhw,” meddai’r cadeirydd Simon Harris wrth siarad â BBC Cymru Fyw. “Roedd e mor frwdfrydig am geir, ei wybodaeth yn eang ac roedd e’n angerddol am hanes Cymru a’r iaith Gymraeg.”
Dywedodd Tegwen Morris, cyfarwyddwr Merched y Wawr: “Fe fuodd Huw Thomas yn ysgrifennu erthyglau i’r Wawr am flynyddoedd lawer. Bu ei fam yn un o lywyddion Merched y Wawr ac roedd hi wastad yn bleser darllen ei erthyglau – erthyglau difyr a oedd yn mynd â ni ar draws y byd.
“Ry’n yn cydymdeimlo yn fawr gyda’r teulu.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.