Dechrau gobeithiol iawn i gyfnod Craig Bellamy

Chwaraeon Newyddion

gan David Edwards

Llun – FAW Cymru

Ar noson gynnes, ond gwlyb o fis Medi yng Nghaerdydd, cyn eu gêm Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Twrci, hwyrach nad oedd teimladau chwaraewyr pêl-droed Cymru yn rhy annhebyg i filiynau o blant ar draws y wlad yn mynychu’r ysgol ar ôl gwyliau haf hir… ychydig yn bryderus ac yn awyddus i blesio eu pennaeth newydd, Mr Craig Bellamy.

Byddai’r dehongliad calonnog o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ wedi codi to unrhyw wasanaeth ysgol, heb sôn am y stadiwm llawn dop! Roedd tymor newydd o dan arweiniad Mr Bellamy wedi dechrau’n go iawn!

Yn eu gwisg newydd, a steil newydd o chwarae, Cymru ddechreuodd y gêm gyda chyfnodau hir o batrymau chwarae doeth, amyneddgar, a chlyfar.

Arweiniodd eu meddiant at donnau o ymosodiadau cyflym, yn enwedig gan y pâr bywiog o asgellwyr – Sorba Thomas ar y chwith a Brennan Johnson ar y dde. Roedd Twrci yn edrych ond yn gysgod o’u perfformiad trawiadol ym mhencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar – gan gyrraedd y rownd gynderfynol – ac roedd y Cymry yn edrych yn slic.

Roedd y tîm cartref yn edrych yn arbennig o beryglus wrth ymosod ac yn dod yn nes at greu agoriad gyda chyfleoedd yn disgyn i Ampadu, y capten Ramsey, a’r cyfle gorau oll yn glanio wrth draed yr amddiffynnwr Rodon. Ac ar y 37ain munud fe aeth y bel i’r rhwyd, ond barnwyd bod Thomas yn camsefyll gan VAR.

Bu bron i Aaron Ramsay roi Cymru ar y blaen yn dilyn patrwm chwarae clyfar arall i lawr yr ochr dde yn cynnwys Brennan Johnson. Chwythodd Twrci ochenaid fawr o ryddhad wrth i’r hanner cyntaf ddod i derfyn –  0-0 ar yr egwyl.

Dechreuodd Twrci ar yr ail hanner fel petaent nhw wedi cael eu rhostio gan eu rheolwr yn ystod yr egwyl. Ond roedd amddiffyn Cymru yn gadarn, ac yn y diwedd ymatebodd y tîm cartref yn dda iawn – clyfar mewn meddiant, penderfynol a chorfforol hebddo.

Yn y 55fed munud, daeth Cymru yn agos wrth i’r gweithgar Harry Wilson greu cyfle  i Brennan Johnson. Ac o fewn munud, bu bron i’r darparwr ddod yn sgoriwr, wrth iddo daro roced hir oedd ond milimetrau o’r postyn. Roedd pwysau’r Cymry’n yn cynyddu erbyn hyn, gyda Thomas yn achosi problemau i amddiffyn Twrci gyda’i rediad.

Cyrhaeddodd Twrci y pwynt berw wrth i Baris Yilmaz gael cerdyn coch ar ôl sialens ar Neco Williams yn y 62ain munud. Rhoddodd hyn nid yn unig fantais o ran niferoedd i Gymru, ond bu hefyd yn fodd i godi lefel y sŵn gan y cefnogwyr. Anfonodd Craig Bellamy ddau eilydd ymlaen yn y 72 munud; y blaenwr profiadol Keiffer Moore a’r asgellwr chwith ifanc Lewis Koumas.

Yna, ynghanol y frwydr, cafodd Moore anaf i’w ben. Roedd toriad yn y chwarae ond dychwelodd y rhyfelwr i’r maes yn fuan. Fel arweinydd gyda baton yn ei law, parhaodd y rheolwr Craig Bellamy i annog ei chwaraewyr i bwyso a phasio yn gyflym.

Ac er i’r sgôr gael ei chloi ar 0-0, ymatebodd y dorf Gymreig gyda sŵn byddarol. Ond yn ofer, a’r cloc yn tician yn nes at y chwibaniad llawn amser, golwr Cymru Danny Ward ddaeth yn arwr wrth iddo arbed peniad agos gan Bardakci. Ac er i 10 munud ychwanegol gael ei chwarae, daeth gêm gyntaf cyfnod newydd pêl-droed Cymru i ben yn gyfartal – 0-0.

Cymru (3-4-3) 

D Ward; N Williams; B Davies; E Ampadu; J Rodon; H Wilson; A Ramsey (C); B Johnson; C Roberts; J James; S Thomas. 

Twrci (4-4-1-1) 

M Günok; Z Çelik; C Söyüncü; O Kolcü; A Gület; B A Yolmaz; A Bardakci; I Yüksek; M Müldür; K Ayhan (C) 

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    1 Comment
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau
    Iestyn jones

    Falch iawn cael Mr Edwards ar dîm Y Cymro. Mae o’n cyfnod cyffrous i bel droed Yng Nghymru 👍🏼