gan Laura Nunez
Mae Gŵyl Y Dyn Gwyrdd yn cymeryd lle yn lleoliad hardd y Bannau Brycheiniog, a bu’r 22ain digwyddiad eleni yn ffodus iawn gyda’r tywydd, heb unrhyw law trwm a wanychodd yr ysbryd y llynedd.
Roedd bron pob band Cymraeg yn chwarae ar lwyfan yr Ardd Furiog eleni, a’r ‘Settlement’ cyn y brif ŵyl, gyda llawer o fandiau gwych eraill, felly o’n i’n treulio lot o amser yna yn mwynhau’r gerddoriaeth neu ymlacio rhwng setiau.
Roedd lineup Yr Ardd Furiog i gyd yn fandiau Cymreig ar ddydd Iau, a Pys Melyn oedd y band cyntaf i mi weld yna, gyda’u halawon bachog, a syrpreis neis i glywed ei cân gynnar ‘Hosepipe Ban’ yn y set.
Roedd HMS Morris yn newidiad munud olaf yn lle Cowbois Rhos Botwnnog, a cafo nhw groeso mawr gyda’u set hwyliog ac egnïol a oedd yn cael pobl i ddawnsio. Yn y nos mi oedd Islet o Gaerdydd yn gwneud set seicadelig a dramatig cyn i Das Koolies headleinio gyda set electronig tra’n perfformio y tu ôl i sgriniau oedd yn cuddio yr aelodau sy’n gyn-aelodau o Super Furry Animals.
Dros weddill y penwythnos roedd setiau gan N’Famady Kouyate, sydd o Gini yn wreiddiol, ond nawr wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ac wedi dysgu Cymraeg, gyda set egnïol a gafodd y dorf i gymryd rhan.
Roedd set atmosfferig ac ymlaciol ar brynhawn Sul gan y delynores Cerys Hafana, ac i ddilyn daeth set hynod ar lwyfan newydd Rising gan Mari Mathias, ennillydd cystadleuaeth Rising 2024. Roedd llwyfan Rising ychydig yn wahanol eleni, gyda chefndir mynyddig, a aeth yn dda gyda’r set Geltaidd.
Yr oedd amrywiaeth mawr o actau eraill yn yr wyl fel bob amser ond nid oedd yn teimlo bod prif actau mawr. Rhai uchafbwyntiau oedd Ezra Collective ar y prif lwyfan Mynydd ar nos Sul, a ddechreuodd barti yn y dorf gyda’u cyfuniad jazz affrobeat, straeon am chwarae yng Nghymru gan y blaenwr Femi Koleoso a ‘Ni yn dawnsio gyda Dyn Gwyrdd’ yn y Gymraeg ar y sgriniau.
Roedd The Waeve gyda Rose Elinor Dougall a Graham Coxon yn chwarae set hyfryd folk punk ar y llwyfan Mynydd ac mi gafodd Moonchild Sanelly o Dde Affrica bobl yn dawnsio i’w cherddoriaeth electro, affro-pop, a chlywais lawer o bobl yn siarad amdani hi fel uchafbwynt yn ystod gweddill yr ŵyl. Roedd y set Tinariwen gyda’u sain roc gwerin Arabaidd yn un cofiadwy arall sy’n ‘codi pobl’, yn ogystal â setiau gan Personal Trainer, Nadine Shah, Lynks a Michael Head.
Un band yr oeddwn yn edrych ymlaen i’w gweld ond wnaeth ddim llawer o argraff yn anffodus oedd Jesus and Mary Chain – un o’r setiau hynny na wnaeth lwyddo i gysylltu neu danio’r gynulleidfa yn fy marn i.
Mae’r ŵyl wedi bod yn gyfeillgar a chroesawgar iawn erioed, ac mae’n dal i gynnal hynny, hyd yn oed gyda’i maint cynyddol. Mae hefyd wedi cael ei hadnabod erioed fel gŵyl sy’n gyfeillgar i’r teulu, sy’n rhoi awyrgylch braf, ond yn teimlo braidd ar adegau fel ‘Lord of the Flies’ pan adawyd rhai plant allan o reolaeth.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.