Rhifyn Awst Y Cymro

Newyddion

“Mae o reit syml – dwi isio i straeon Cymraeg a Chymreig barhau,” meddai’r colofnydd Bethan Jones Parry. Digon teg wir.

Y pwysigrwydd yna i ddarparu arlwy i ddenu cynulleidfa hollbwysig yna sy’n cael y sylw ar dudalen flaen rhifyn Awst Y Cymro. Ychwanega Bethan: ‘Ac mae ein straeon ni a’n celfyddydau ni mor bwysig, a’u gwerth tu hwnt i’r geiniog.’

A beth am y bwytäwr pechod yng Nghymru? Be ddwedsoch? Ie, y rheini oedd yn bwyta a chymryd pechod yr ymadawedig yn llythrennol.  Darllenwch fwy am y traddodiad od iawn yma yn erthygl yr hanesydd mel Hopkins.

Sut mae Iwerddon ryddfrydol yn rhoi glasbrint ar sut i dyfu economi Cymru annibynnol? Dyna bwnc yr economegydd Dr Edward Thomas Jones wrth iddo ddadlau bod yr ynys werdd yn dangos y ffordd ymlaen i ni. Darllenwch sut yn y rhifyn yma.

Ac wrth longyfarch Plaid Cymru ar ei llwyddiant etholiadol mae gan Heledd Gwyndaf bwynt mwy eang hefyd wrth ofyn pam bod rhaid anfon ein haelodau etholedig i Lundain i dyngu llw i frenhiniaeth Lloegr?

Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Awst Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw’r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau