Am ddechrau gwych i Wrecsam!

Newyddion

gan David Edwards

Lluniau: Gemma Thomas

Gan gipio eu tocynnau gemau gwerthfawr fel Charlie yn mynd i’r ffatri siocled gyda’i docyn aur, ymgasglodd y Môr Coch yn eu miloedd o amgylch Cae Ras STōK, gan ragweld a gobeithio am don arall gan eu harwyr mewn coch. 

Y dorf fwyaf mewn gêm cynghrair ers dyddiau ‘Dixie’ yn erbyn Newcastle United yn 1980, yn disgwyl amdanynt.
Cyn y gêm, cafwyd munud o gymeradwyaeth i goffau cefnogwr Wrecsam o fri, Arthur Massey.

Ac felly, ar noson boeth o Awst, y Dreigiau Coch a anadlodd dân gyntaf, wrth i’r amddiffynnwr Max Cleworth benio o gic gornel yn y 10fed munud.
Ffrwydrodd crescendo enfawr o sŵn o amgylch Cae Ras STōK ac ysgydwodd ei seiliau i’r craidd!

Parhaodd y tîm cartref i bwyso a chwarae pêl-droed ymosodol wrth i’r blaenwr cartref, George Dobson, dynnu’r llinynnau gyda pheth pêl-droed deallus yn cyfnewid gyda Jack Marriott .

Ac ef  ddyblodd y blaen ar Wrecsam ar y 29ain munud, gyda foli feiddgar o 18 llath i do’r rhwyd! Streic fendigedig!
Doedd Wycombe yn fodlon gadael i’r tîm cartref redeg drostynt. Fodd bynnag, roedd amddiffyn Wrecsam yn benderfynol wrth iddyn nhw atal unrhyw berygl.

Er i’r ymwelwyr ddod yn agos gyda dau hanner cyfle, Wrecsam orffennodd yr hanner 1af yn dwy gôl ar y blaen.
Arweiniodd agoriad 2il hanner disglair gan Wrecsam at ddau gyfle i James McClean ac yna Jack Marriott.

Roedd Wycombe Wanderers fodd bynnag, yn benderfynol o beidio â bod yn wylwyr a sgorion nhw yn y 58fed munud gyda gorffeniad clinigol gan Richard Kone.

Cyrhaeddodd y gôl nesaf gan yr eilydd Steven Fletchers – cyrler troed chwith i’r gornel chwith uchaf.  3 – 1 felly i’r Dreigiau Coch.
“Wrecsam lager, feed me ‘til I want no more” canodd y ffyddloniaid .

Lleihaodd eilydd Wycombe Wanderers, Sam Vokes, rhuad Wrecsam, wrth iddo sgorio o gic gornel Wycombe, i roi achubiaeth i’r tîm oddi cartref.
Roedd calonnau mewn cegau am y pedwar munud olaf o amser ychwanegol, nes i’r dyfarnwr Ollie Yates chwythu’r chwiban olaf a diweddu dechrau dirdynnol i ymgyrch Wrecsam yn 2024 2025.

Yn dilyn y gêm, dywedodd Phil Parkinson: “ Roedd awyrgylch gwych yma eto heddiw. Mae bod ar y cae pan fydd y maes hwn yn bownsio yn anhygoel, ac mae gan y cefnogwyr hyn ran enfawr i’w chwarae i ni.”

Wrecsam:

Arthur Okwonko; Max Cleworth; Eoghan O’Conell; Tom O’ Connor; James McClean (c); Andy Cannon; Ollie Palmer; Jack Marriott; George Dobson; Ryan Barnett; Elliott Lee.

Wycombe Wanderers:

Nathan Bishop; Jack  Grimmer; Dan Harvie; Josh Scowen; Alex Hartridge; Luke Leahy; Garath  McCleary; Tyreeq Bakinson; Joe Low; Kieran Sadlier; Richard Kone.
Y dorf:  13, 214

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    1 Comment
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau
    Iestyn Jones

    Da iawn Deio 👏🏼