Set-jetio: y ffasiwn ddiweddaraf sy’n dangos Cymru i’r byd

Newyddion

Set-jetio – mynd am wyliau i lefydd sydd wedi ymddangos mewn ffilm neu deledu adnabyddus – yw’r duedd ddiweddaraf sydd wedi sicrhau lle i Gymru ar restr y ‘lleoedd gorau i ymweld â nhw’ yn 2025.

Yn dilyn llwyddiant y bennod deledu gafodd y nifer uchaf o wylwyr dros y Nadolig a chyflwyno lleoliadau sgrin di-rif yng Nghymru i gynulleidfa fyd-eang yn 2024, mae effeithiau hyn ar dwristiaeth Cymru yn cynyddu.

Mae dylanwad Gavin a Stacey ar dwristiaeth wedi para 17 mlynedd, ond erbyn wythnos gyntaf mis Ionawr 2025 roedd degau o filoedd o gefnogwyr wedi ymweld â gwefan Croeso Cymru i gael gwybodaeth am yr ardal neu i holi sut ymuno â thaith enwog Dave Coaches.

Yn nhymor 2 y prequel poblogaidd i’r Game of Thrones, House of the Dragon, gwelwyd sawl lleoliad godidog yn y Gogledd – yng Ngwynedd ac Ynys Môn a draw i Gonwy. Mae gweld yr arfordir, ynysoedd a thirweddau hardd hyn wedi gwneud y Gogledd yn gyrchfan y mae’n rhaid ymweld â hi.

Daw’r llwyddiannau hyn wrth i VisitBritain lansio heddiw [dydd Mawrth 21 Ionawr] ymgyrch ‘Starring GREAT Britain’, ymgyrch twristiaeth sgrin i ddenu twristiaid o bob cwr o’r byd, gan ddefnyddio ffilmiau a sioeau teledu fel bachyn i’w temtio a’u sbarduno i wario yn y pedair gwlad a rhoi hwb i economïau lleol.

Mae Croeso Cymru a VisitBritain wedi dod ynghyd i gydweithio i lansio’r ymgyrch ryngwladol fawr hon a fydd yn cynnwys lleoliadau epig House of the Dragon fel prif elfen iddi. Bydd yn cael ei hyrwyddo ledled y byd, gan gynnwys yn UDA, yr Almaen, Ffrainc ac Awstralia.

Mae degau o filiynau o bobl o bob cwr o’r byd yn ymweld â’r DU bob blwyddyn i hamddena, a’r amcangyfrif yw iddynt wario £32.5 biliwn y llynedd yn unig.

Mae set-jetio wedi chwarae rhan fawr yn hynny, a chyda sector creadigol Cymru yn mynd o nerth i nerth, mae’r economi ymwelwyr yn adlewyrchu hynny. Ac wrth reswm, mae VisitBritain, Croeso Cymru ac eraill yn awyddus i wneud yn fawr o hynny.

Mae ymchwil VisitBritain yn datgelu bod mwy na 9 o bob 10 darpar ymwelydd â’r DU yn awyddus i gynnwys lleoliadau teledu a ffilm yn eu taith. Yn ogystal, dywedodd bron 20% o bobl o’r DU ar wyliau bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymweld â lleoliadau ffilmiau, rhaglenni teledu neu lenyddiaeth yng Nghymru.

Dywedodd Marco Zeraschi, perchennog Marco’s café:

“Mae Gavin a Stacey wedi llwyddo i droi Ynys y Barri yn gyrchfan ddiwylliannol i’r genedl gyfan ac mae’r hwb i dwristiaeth wedi bod yn aruthrol. Mae ymwelwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt yn dod i Ynys y Barri nawr i brofi’r awyrgylch gynnes a chyfeillgar a welwyd ar y rhaglen, ac i ni mae’r busnes y mae wedi’i ddenu’n anferth.

“Mae Marco’s Cafe yn un o’r llefydd eiconig y mae cefnogwyr am ei weld a diolch i’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, rwyf wedi gallu cyflogi mwy o staff. Mae’r bennod olaf a’r holl sylw iddi yn y cyfryngau wedi cyflwyno Ynys y Barri i genhedlaeth newydd o gefnogwyr ac rwy’n disgwyl ymlaen at roi croeso cynnes iddyn nhw eleni.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:

“Mae set-jetio yn ffordd wych o arddangos yr amrywiaeth gyfoethog o gyrchfannau eithriadol sydd gennym yng Nghymru, o leoliadau eiconig i berlau cudd sydd wedi eu darlunio mewn ffilmiau a chyfresi teledu Cymreig a Phrydeinig poblogaidd. Does dim amheuaeth y gall lleoliad neu gyrchfan o ffilm neu gyfres deledu ennill lle arbennig yng nghalonnau gwylwyr.”

“Mae gan Gymru swyn unigryw sy’n dal dychymyg teithwyr ledled y byd, ac mae’n addas iawn mai 2025 yw ein Blwyddyn Croeso a man dechrau ein hymgyrch ‘Hwyl’, i hyrwyddo profiadau a chyrchfannau unigryw ein gwlad i ymwelwyr o bob cwr o’r byd.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau