Tybed… a yw ein system addysg yn ein paratoi am fethiant?

Barn

Lleisiau Newydd:

‘Yn y chweched dosbarth, mae cymaint o bwysau ar fyfyrwyr i fynd i brifysgol’

gan Awel Hughes, Blwyddyn 12, Ysgol Glan Clwyd  

 

Gyda’r coronafeirws, costau byw, a’r economi ar ei waethaf ers tro, dydy hi ddim yn syndod fod y byd addysg, ynghyd â llawer o feysydd eraill, wedi dioddef dros y blynyddoedd diwethaf. 

Wedi dweud hyn, a yw’r system addysg sydd gennym yma yng Nghymru wir yn gweithio? Neu ydy hi’n amser i ni ddod o hyd i system well – sydd yn ein paratoi at y byd go-iawn? 

Dwi’n ferch sydd newydd orffen fy arholiadau TGAU, ac er i mi dderbyn canlyniadau fyddai llawer yn eu hystyried i fod yn dda iawn, teimlaf ar goll am beth i’w wneud nesaf gyda fy nyfodol.  

Rwyf bellach wedi mynd ymlaen i’r chweched dosbarth, ac roedd dewis pynciau yn unig yn sialens a hanner i mi. Wrth i mi feddwl am beth i’w astudio, roedd llawer o broblemau yn fy wynebu.  

I ddechrau, pa bynciau fyddaf eu hangen ar gyfer y dyfodol? Heb fod â syniad am ba swydd yr hoffwn ei wneud, a pha faes yr hoffwn fynd i mewn iddo hyd yn oed, profodd hyn yn gwestiwn weddol anodd ei ateb. 

Efallai eich bod yn cael yr argraff fy mod yn berson ansicr, sy’n ei gweld hi’n anodd i wneud penderfyniadau, a byddai’r rhan fwyaf o bobl ifanc fy oedran i yn gwybod yn union beth maent am wneud, neu o leiaf a rhyw fath o gynllun – ond gallaf eich sicrhau nad dyma’r gwir o gwbl.  

Yn ôl ‘Moneyzine’, dywed 38% (sydd dros un traean) o fyfyrwyr colegau a’r chweched dosbarth yn y DU eu bod yn ansicr am beth hoffwn nhw ei wneud yn y dyfodol.  

I ychwanegu at hyn, dywed 64% ohonynt fod aros yn frwdfrydig am eu hastudiaethau ac/neu ymchwilio i’r byd gwaith yn un o’r heriau mwyaf y maent yn ei wynebu. 

Ond, nid dim ond dewis pynciau i’w hastudio a gyrfa sydd angen i ni feddwl amdano mor ifanc, mae hefyd rhaid i ni feddwl am sut yr ydym am gyflawni hyn, a’r holl gamau sydd rhaid i ni eu cymryd er mwyn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.  

Yn y chweched dosbarth, mae cymaint o bwysau ar fyfyrwyr i fynd i brifysgol, hyd yn oed os ydyn nhw’n credu mai nid dyma’r opsiwn gorau iddyn nhw. 

Er bod ysgolion a cholegau yn gwneud yn siŵr ein bod yn sylweddoli fod llawer o opsiynau eraill ar ôl gadael yr ysgol, mae gweld pawb o’u cwmpas yn mynd i brifysgol yn gallu gwneud i bobl deimlo fel eu bod yn methu allan ar brofiad hanfodol bywyd.   

Hefyd, mae’r camsyniad ei bod hi bron yn amhosib cael gyrfa lwyddiannus heb fynd i brifysgol yn un cyffredin iawn ymysg pobl ifanc. O ganlyniad i hyn, mae 48% o raddedigion – bron i hanner ohonynt – yn dweud eu bod yn difaru’r cwrs astudion nhw. 

Ar y llaw arall, mae nifer fawr o bobl ifanc yn teimlo na allant fynd ymlaen i astudio’r cwrs hoffen nhw ei wneud oherwydd yr arian. Erbyn rŵan, mae ffioedd dysgu mewn prifysgolion yng Nghymru ar gyfartaledd yn £9,000, gyda disgwyl i’r ffioedd yma godi i £12,500 dros y blynyddoedd nesaf.   

 I lawer o fyfyrwyr, mae hyn yn un ffactor sy’n eu rhwystro rhag dilyn eu llwybr delfrydol, yn enwedig gan fod dod o hyd i’r math yma o arian mor ifanc yn du hwnt o anodd.  

Ond, sut fedrwn wella’r system addysg i’w wneud yn fwy addas i bawb? I ddechrau, byddai cael mynediad at brofiad gwaith i bawb o oed cynharach yn helpu disgyblion yn yr ysgol uwchradd i ddechrau meddwl am eu dyfodol yn gynharach, a chael gwell dealltwriaeth o’u diddordebau a’i cryfderau.   

Byddai hefyd o gymorth i normaleiddio mynd i’r brifysgol yn hwyrach mewn bywyd, fel bod gan bobl ifanc fwy o ddealltwriaeth o’u hunain a’u dyfodol cyn gwneud ymrwymiad mor fawr. Wedi’r cyfan, rydym dal yn blant yn y chweched dosbarth.  

Yn olaf, ac efallai yn bwysicaf, credaf fod y ffordd rydym yn dysgu yn yr ysgol yn hen ffasiwn, â’i fod yn hen bryd i’w newid.   

Er bod rhai pynciau yn cynnig mwy o gyfleoedd i weithio’n ymarferol nag eraill, mae’r system addysg yn bennaf wedi’i seilio ar waith papur a chofio ffeithiau.     

Credaf yn gryf mai’r prif reswm ges i ganlyniadau da yn fy arholiadau TGAU yw oherwydd bod gennyf gof da. Wedi’r cyfan, mae arholiadau yn brawf i’r cof yn bennaf, a ddim wir yn dysgu sgiliau defnyddiol ar gyfer y byd go-iawn.   

Mae’n rhoi mantais i un math o ddysgwyr yn unig, tra’n tynnu dysgwyr eraill i lawr. Mae’n hen bryd newid y system yma am byth.  

I grynhoi, dydy’r system addysg yma yng Nghymru ddim yn gallu ein paratoi at y dyfodol, ac mae’n rhoi llawer gormod o bwysau diangen arnom fel pobl ifanc.  

Felly, os ydych yn ddisgybl yn y chweched dosbarth fel fi, neu yn rhywun sydd wedi bod yn y byd gwaith ers degawdau, gobeithiaf fod yr erthygl yma wedi rhoi cyfle i chi feddwl yn ddyfnach am y system addysg yma yng Nghymru, a sylweddoli nad oes wir angen poeni gymaint am y dyfodol mor ifanc.   

  

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau