Mae ‘chydig o theatr ac awyrgylch yn gallu helpu unrhyw brotest. Pa mor berffaith felly oedd strydoedd tref Machynlleth yn ddiweddar i gynnal yr orymdaith i fynnu gweithredu i ddatrys y sefyllfa argyfyngus yn ein cymunedau Cymraeg.
Ie, gorymdaith fawr ‘Nid Yw Cymru ar Werth’ sy’n hawlio’r sylw ar y dudalen flaen y mis yma a hefyd o fewn ambell i ddarn barn wrth i’r teimladau ar draws y wlad ynglŷn â’r broblem dai gyrraedd y pwynt berw.
A does ryfedd pam chwaith mewn mis pan welwyd pentref Llanberis yn cael ei alw’n ‘Magaluf of Wales’ gan bapurau Seisnig wrth hefyd gyfleu syndod rhywsut bod y bobl leol wedi cael llond bol ar gael eu prisio allan o’u cartrefi eu hunain.
Yn annerch y dorf ym Machynlleth dywedodd Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd a dirprwy arweinydd Plaid Cymru:
“Nid yw Cymru ar werth ydy’n cri. A bloeddiwn y geiriau hynny nes atseinir pob sillaf yn ein Senedd. Fe frwydrwn, fe ddyfalbarhawn, fe hawliwn newid”
Hefyd yn y rhifyn yma mae’r stori drist iawn yng ngholofn Dafydd Iwan am farwolaeth arwr ifanc yn Wcráin yn amddiffyn ei wlad a’i gysylltiad â’r gân ‘Yma o Hyd’.
Stori ddigon od sydd gan yr hanesydd Mel Hopkins y mis yma – am ddirgelwch drysfeydd Cymru a hanes ein cyndeidiau yn creu’r siapiau anhygoel hyn yn y tir. Darllenwch mwy yn y rhifyn.
A sut mae dyled gyhoeddus wedi dod mor dderbyniol ‘dwch? Dyna gwestiwn ein colofnydd busnes Gari Wyn Jones wrth ofyn am fwy o hyrwyddo’r syniad o ‘entrepreneuriaeth’.
Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Hydref Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.