Do, es i fyd go wahanol – ar ôl bwyd Tsieineaidd yn Ninas Mawddwy

Barn

Lleisiau Newydd

gan Y Ddysgwraig

Cefais gyflwyniad i’r byd ‘megalithig’ yn ddiweddar ar ôl ymweliad â bwyty Tsieineaidd yn Ninas Mawddwy.

Daw’r pethau gorau yn annisgwyl …fel maen nhw’n deud.

Ymhen ychydig, cefais sgwrs ddifyr gyda chymeriadau cyfeillgar ar fwrdd cyfagos. ‘Rydyn ni wedi bod yn Ley hunting’ medden nhw.

Di hynny ddim yn rhywbeth da chi’n ei glywed bob dydd, ac fel rhywun sydd â diddordeb mewn safleoedd hynafol roeddwn i’n glustiau i gyd.

Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd â henebion cyn-hanesyddol a meini hirion ers codi copi o lyfr Janet & Colin Bord ‘Mysterious Britain’ o siop yn Glastonbury yn fy ‘arddegau.

Fe ddangosodd y cwpl cyfeillgar restr (mewn llawysgrifen) o safleoedd yr oeddent wedi teithio iddynt, a rhannwyd lluniau o’r cylchoedd cerrig a’r cromlechi yr oeddent wedi eu gweld. ‘Mae ‘Leys’ yn cydgysylltu â nhw’, medden nhw. Roeddwn i wedi clywed am Ley Lines ond roedd yn rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn gwybod llawer am y pwnc.

Daeth i’r amlwg eu bod yn rhan o rwydwaith o Ley Hunters ac wedi bod ar daith o amgylch safleoedd hynafol, gan ddiweddu’r noson honno yn nhŷ’r arbenigwr a arweiniodd y daith. ‘Pan fyddwch chi wedi gorffen eich bwyd, fe awn â chi i gwrdd â Laurence y derwydd’ medden nhw.

“Mae’n dipyn o guru a bydd yn hapus i siarad am y cerrig hudol. Mae o’n caru ymwelwyr. Dydy o byth yn cau ei ddrws, dim ond os oes storm eira. Mae mwyar duon yn tyfu yn ei gegin hefyd.”

Roedd hwn yn gynnig rhy dda i’w wrthod ac roedd o’n swnio fel rhywun yr hoffwn i gwrdd ag o. Felly ar ôl i ni orffen bwyta fe gerddom i fyny’r ffordd i’r tŷ lle’r oedd y guru yn byw ac yn cynnal y grŵp – ‘Ley Hunters’.

Wrth nesáu at y tŷ, gyda fy merch ifanc yn dilyn, roeddwn yn dechrau amau tybed os oedd hyn yn syniad da wedi’r cwbl. Roeddwn yn disgwyl cerdded i mewn i awyrgylch ‘incense heavy’ efallai gydag aer arbrofol seicedelig.

Curais ar y drws (oedd ar agor yn barod). ‘Dewch i mewn, dewch i mewn’ …daeth llais croesawgar Laurence y derwydd wrth iddo ein harwain i mewn i’r ystafell ffrynt. Dyn mawr oedd Laurence, gydag wyneb doeth. Gorchuddiwyd y waliau yn ei ystafell ffrynt â silffoedd llawn llyfrau, papurau a chylchgronau a rhesi ar resi o fapiau OS yn cwmpasu pob rhan o’r DU.

Cawsom groeso ar unwaith. ‘Eisteddwch’ meddai. ‘Dwi ’rioed wedi bod yn ffan o gadeiriau ond gallwch chi eistedd ar gwshin ar y llawr’. Eisteddais ar y llawr wrth obeithio i beidio rholio o gwmpas fel dol Kelly. Yn sydyn wedyn, neidiodd bawb i fyny ar unwaith wrth ddechrau tynnu seddi campio allan ac eistedd arnynt. Cefais argraff bod amser yn rhedeg ar gyfradd wahanol iawn o fewn yr ystafell ffrynt yma!

Eglurodd Laurence bod llinellau Leys yn cysylltu safleoedd arwyddocaol â’r syniad yw bod safleoedd wedi’u hadeiladu’n fwriadol ar y llwybrau llinellol hyn. Felly, system lywio gynnar o ryw fath yw ‘llinellau Leys’.

Dywedir bod Leys yn deillio o ynni y mae dowsers yn honni eu bod yn gallu olrhain wrth gloi i mewn i gerrynt arbennig.

Treulion ni hanner awr dda yn sgwrsio gyda’r bobl gyfeillgar iawn yma oedd wedi ymgasglu yn ei ystafell ffrynt ac es i i ffwrdd oddi yno gyda rhywfaint o ddeunydd darllen. Roedd yn gyfarfyddiad gwahanol a dweud y lleiaf.

Mae cymaint o fywyd yn cael ei fyw ar lein felly mae’n bleser dod o hyd i bobl â rhestrau wedi’u hysgrifennu â llaw, ac yn defnyddio mapiau papur hefyd.

Roedd o’n wych bod gyda phobl oedd yn teimlo mor angerddol am yr ynni daear anweledig (hudol ai peidio). Nodyn i’n hatgoffa hwyrach bod y gorffennol yno i ni ei ddarganfod a’i fwynhau.

Llun: Paula, Laurence, Alison a David.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau