Roedd ganddo egni plentyn – a direidi plentyn ’fyd
gan Marc Roberts
Fis Awst bu farw Dewi Gray Morris.
Neu Dewi Pws fel yr adnabuwyd ef gan lawer.
A Drewi Pwps gan eraill – ond doedden nhw ddim ar ei restr cerdiau Nadolig e’ …
Erbyn hyn mae sawl teyrnged wedi bod iddo, felly mae’n well osgoi ailadrodd gormod a jyst gweud beth odd e’n ei olygu i mi.
Plentyn ifanc yn ei bedwardegau o’dd Dewi pan gwrddes i ag e’r tro cynta’. Roedd ganddo egni plentyn – a direidi plentyn ’fyd.
A dyna pam o’dd clywed ei fod wedi marw yn anodd credu. Roedd e mor ifanc ei ysbryd.
Er wrth gwrs, ar bapur (fel petai), doedd e ddim mor ifanc, ac wrth ddishgwl arno fe, yn amlwg roedd e wedi hen golli’i wallt i gyd ond ar yr adegau prin ’na pan o’dd e’n eistedd yn dawel a’i feddwl ymhell – yn amlwg yn canolbwyntio ar gynllwynio’r tric nesa’ i chwarae ar bawb – fe welech yn ei lygaid ôl profiad rhywbeth llawer dyfnach na’i hiwmor heintus e’.
Yn ystod yr holl flynydde ers imi gwrdd â Dewi gynta’, treuliais i ddim llawer o amser yn ei gwmni o gwbl, ond bob tro y byddwn i’n taro mewn iddo – hyd yn oed ar ôl mynd heb ei weld ers blwyddyn neu ddwy, diflannai’r amser coll. Doedd dim cyfarch confensiynol na dweud ‘Helo, shwmae’. Yn gynta’ byddai Dewi’n tynnu wyneb twp neu weiddi rhywbeth doniol i greu embaras. Un fel ‘na o’dd Dewi.
Un tro, wedi’i amgylchynu gan blant a’u rhieni yn ystod ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru, gweiddodd: “O shgwlwch pwy sy’n dod – ‘The Incredibly Itchy Man!’ – yn cyfeirio at stori, ro’n i wedi trio ei hanghofio, pan gorffes i ddrifo i Ysbyty Gwynedd am 4 o’r gloch ryw fore yn dilyn cyfarfod anffodus gyda phicwnen ar ben mynydd y diwrnod blaenorol – a honno wedi ffeindio’i ffordd i mewn i’r chainmail ro’n i’n digwydd bod yn ei wisgo ar y pryd … ond stori arall yw honno.
Trwy gydol un haf, roedd Dewi’n gymydog imi yn byw yn y fflat lan lofft. Bob bore wrth fynd i’r gwaith sylwais bod “rhywun”, ynghanol y nos, wedi slipo llythyr dan y drws – o’r ‘Residents Association’ yn cwyno am bob math o bethau; hyd fy ngwallt, lliw fy nghar, maint fy nhraed neu’r ffaith bo pawb wedi sylwi mod i’n derbyn gormod o lythyron o dan y drws…
Ges i wahoddiad anarferol ganddo hefyd – i fynd lan i weld y bog (toiled) odd yn ddu bitsh! A’i fath du, bosh du a hyd yn oed teils du ar lawr a waliau’r bathrwm. Dyna noson ryfedd oedd honno.
Dewi Drwg, oedd e’n aml – y plentyn llawn direidi. Ond Dewi Da odd e ‘fyd. Herwgipiodd fi un noson gan ddweud “Ti’n ffansi mynd am sbin?” Mewn llai na hanner awr ro’n ni’n mwynhau cyngerdd plant ag anghenion arbennig yng Nghaernarfon. Roedd Dewi yn ei elfen ond eto’n hollol ddiymhongar er yr holl sylw gafodd e.
Roedd pawb yn ei garu.
Y drygionus a’r da. Y doniol a’r difrifol – sy’n cael eu hadlewyrchu yn ei waith. Roedd ganddo’r ddawn i wneud i bawb chwerthin gymaint nes bod rhaid newid eu dillad isa’ – ac yna’n dod â deigryn i’r llygad gyda cherddi a chaneuon mwy difrifol fel ei gân er cof am Tich Gwilym neu Ti.
Dewi’r bardd ddysgodd fi shwd i gyfieithu “Is your tidy black house a good tidy black house?”
’Di dy dŷ du, t’idi di’n dŷ du, t’idi da?
(Ceisiwch ei ddweud yn glou)
Mae ei waddol i’r byd yn enfawr. Gallaf restru ei gampweithiau cerddorol, barddonol, ei ddawn fel chwaraewr rygbi a golff, neu fel Glyn y ffan rygbi cofiadwy yn Grand Slam, yr holl fynyddoedd mae e wedi’u concro, yr holl jôcs mae e wedi’n fforsio ni i ddiodde’ a’r holl dricie mae e wedi whare arnon ni. Roedd e’n caru’i wlad ac yn angerddol dros yr iaith, ond os oeddwn i’n gorfod dewis enwi un peth pwysig gadawodd Dewi ar ei ôl – y wên ar fy wyneb fydde hwnnw.
Y wên wy’n ffaelu stopo’i gwenu, wrth gofio amdano
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.