Mae sioe mis Medi Y Cymro rŵan ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube Y Cymro ar-lein.
Mae sioe Medi yn sgwrs banel gyda phedwar gwestai arbennig a gafodd ei ffilmio yn siop lyfrau Storyville Books, Pontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Pontyprridd 2024.

Pwnc prif drafodaeth y rhaglen mis yma ydi ‘Stad y Wlad’ – sut stad sydd ar Gymru ar ôl chwarter canrif o ddatganoli, be sy’n gweithio a be sydd ddim, a be ydi’r dyfodol i Gymru. A’r gwesteion arbennig ar y sioe banel ydi’r darlledwr a chynghorydd strategol Guto Harri, y cyn athro a cholofnydd Y Cymro Trefor Jones, Cadeirydd Yes Cymru Phyl Griffiths a’r ymgyrchydd a cholofnydd Y Cymro Heledd Gwyndaf.
Neu cliciwch y linc yma neu rhoi’r cyfeiriad url yma yn y blwch cyfeiriad: https://www.youtube.com/watch?v=k7lNXpQ5zg0
Mae’r rhaglen yn gyd-gynhyrchiad rhwng Y Cymro a chwmni annibynnol Gweledigaeth.
Prif lun gan Mark Back.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.