Mae Stephanie Peacock, Gweinidog Twristiaeth y DU ac Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, wedi ymweld â Wrecsam i ddysgu rhagor am y cais i ddod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2029.
Daeth ymweliad y Gweinidog wrth i Wrecsam baratoi i groesawu beirniaid Dinas Diwylliant y DU yn ddiweddarach y mis hwn. Ymwelodd â chanolfan ddiwylliannol Tŷ Pawb, Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam a Marchnad Grefftwyr Wrecsam, lle cyfarfu â masnachwyr lleol.
Ymhlith y rhai a groesawodd y Gweinidog roedd Amanda Evans, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cymuned a Diwylliant Wrecsam (WCCT), sy’n arwain cais Wrecsam2029; Mike Corcoran, ymchwilydd celfyddydau, arbenigwr ymgysylltu ac ymddiriedolwr WCCT; Andrew Ranger, AS Wrecsam; y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Busnes, yr Economi a Thwristiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW); y Cynghorydd Hugh Jones; ac Alwyn Jones, Prif Weithredwr CBSW.
Ar ôl ymweld â Tŷ Pawb a chyfarfod â’i Gyfarwyddwr Creadigol a chynrychiolwyr o fyd diwylliant Wrecsam, cafodd y Gweinidog daith o amgylch Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam dan arweiniad Andy Powlesland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chyfleusterau, a Geraint Parry, Hanesydd y Clwb.
Dywedodd Stephanie Peacock :
“Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â Wrecsam yr wythnos diwethaf i weld rhai o uchafbwyntiau allweddol cais y ddinas yng nghystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU eleni. O’r stadiwm bêl-droed eiconig i ganolfan gymunedol Tŷ Pawb a’r farchnad grefftwyr swynol, gallaf weld pam mae Wrecsam eisoes wedi cyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth. Gwn mai dim ond ychydig o’r llu o leoedd ledled y ddinas sy’n annwyl i gymunedau lleol yw’r rhain.
“Rwy’n gobeithio bod pobl Wrecsam yn falch o fod ar restr fer Dinas Diwylliant y DU. Gwn y byddant yn gwneud eu gorau glas yn ystod cam olaf y gystadleuaeth, a dymunaf bob lwc i chi am weddill y gystadleuaeth.”

Dywedodd Amanda Evans, Cyfarwyddwr Cais Wrecsam2029:
“Roedd yn bleser mawr gennym groesawu’r Gweinidog a’i thywys o amgylch Wrecsam. Mae pawb yn gweithio’n galed i baratoi ar gyfer ymweliad y beirniaid a’n cyflwyniad terfynol ym mis Ionawr. Roedd hwn yn gyfle gwych i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd ac i roi cipolwg ar yr hyn sydd gan Wrecsam eisoes i’w gynnig fel canolfan diwylliant a chreadigrwydd ac fel cyrchfan i ymwelwyr.”
Yn ogystal â Wrecsam, mae Blackpool, Milton Keynes a Sheffield hefyd yn cystadlu i ddod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU. Bydd panel y beirniaid yn ymweld â Wrecsam yn ddiweddarach y mis hwn, a disgwylir iddo wneud ei benderfyniad ym mis Ionawr. Pe bai Wrecsam yn ennill, hi fyddai’r ddinas gyntaf yng Nghymru i wneud hynny.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.