Lansio gwasanaeth coetsys newydd cenedlaethol rhwng Bangor a Chaerfyrddin

Newyddion

Gall teithwyr nawr archebu tocynnau ar gyfer TaithCymru, y gwasanaeth coetsys newydd sy’n cysylltu gogledd a de-orllewin Cymru.

Bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.

LLun: Trafnidiaeth Cymru

Bydd gwasanaethau yn cael eu darparu o oriau mân y bore tan yn hwyr gyda’r nos, gyda 10 gwasanaeth rheolaidd y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd amserlen debyg yn gweithredu ar ddydd Sul, gyda rhai gwasanaethau yn cael eu darparu ar adegau ychydig yn wahanol.

Llun gan Trafnidiaeth Cymru

Bydd taith arferol o Fangor i Gaerfyrddin yn costio £10.00 i un oedolyn, tra bod y daith awr a phedwar deg pum munud o Aberystwyth i Gaerfyrddin yn costio £4.50.

Llun gan Trafnidiaeth Cymru

Mae’r coetsys newydd sbon wedi’u dylunio i ddarparu taith gyfforddus, gyda Wi-Fi, seddi mynd yn ôl, aerdymheru a chyfleusterau toiledau. Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper: “Mae TaithCymru yn gam sylweddol ymlaen wrth gysylltu cymunedau ar draws gogledd a de-orllewin Cymru.

Llun gan Trafnidiaeth Cymru

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau