Cymru’n trechu Seland Newydd: Diwedd ar 73 Mlynedd o Aros

Newyddion

gan Daniel Jones

Cymru 35, Seland Newydd 28.

Roedd cyffro mawr yng Nghaerdydd cyn y gic gyntaf. Er bod Cymru wedi colli’r 34 cyfarfod blaenorol rhwng y timau, roedd y dorf yn credu y gallai rhywbeth arbennig ddigwydd. Roedd y cefnogwyr yn bloeddio dros Gymru cyn yr anthem, a chododd y sŵn ar ôl yr haka.

Dechreuodd Cymru’n hyderus, gan ddefnyddio’r gêm gicio’n effeithiol. Yn yr ail funud, ciciodd Rees-Zammit y bêl i fewn, a dilynodd Tomos Williams hi i sgorio. Ychydig funudau’n ddiweddarach, croesodd Dewi Lake am gais eto 3 munud wedyn, gan ymestyn ei mantais i 14–0.

Llun: WRU

Atebodd Seland Newydd drwy Cortez Ratima, a lithrodd o’r mawl i sgorio o dan y pyst. Daeth eiliad allweddol i Gymru pan dorrodd Seland Newydd drwodd eto: enillodd Jac Morgan y bêl yn ôl ar lawr, gan atal ymosodiad peryglus a newid momentwm y gêm.

Llun: Daniel Jones / Y Cymro

Parhaodd Cymru i chwilio am gyfleoedd, gan ddewis y gornel yn hytrach na chymryd y tri phwynt. Yn ddiweddarach, ymladdodd Archie Griffin drwy amddiffyn Seland Newydd i sgorio, a throsodd Costelow i wneud y sgôr yn 21–7.

Roedd Seland Newydd yn beryglus yn 22 Cymru, a chroesodd Wallace Sititi ar ôl cyfnod byr o bwysau. Ychydig cyn yr egwyl, cafodd Cymru gyfle i fynd i’r gornel eto. Yn hytrach na chicio’r bêl allan a diogelu’r egwyl, ceisiodd gadw’r ymosodiad i fynd. Collodd feddiant, a manteisiodd Seland Newydd ar y cyfle: ar ôl sawl cymal o ennill tir, sgoriodd Fineanganofo. Roedd yn ergyd siomedig i Gymru cyn yr hanner amser, a’r sgôr rwan yn gyfartal.

Llun: Daniel Jones / Y Cymro

Dechreuodd Cymru’n gryf eto. Ar ôl ymosodiad amyneddgar, canfu Tomos Williams Eddie James ar yr asgell chwith, a sgoriodd James.

Sam Costelow, Dafydd Jenkins a Louis Rees-Zammit yn dathlu. Llun: WRU

Yna symudodd mawl Cymru ymlaen, gan dynnu amddiffynwyr Seland Newydd i mewn a chreu gofod ar yr asgell. Gwelodd Tomos Williams y cyfle, pasiodd yn gyflym at Rees-Zammit, a defnyddiodd yr asgellwr ei gyflymder i dorri drwodd am gais. Trosodd Costelow, a chynyddodd mantais Cymru i 35–21.

Atebodd Seland Newydd drwy Peter Lakai, gan leihau’r bwlch i saith pwynt. O hynny ymlaen, bu’n rhaid i Gymru amddiffyn yn galed. Daliodd Botham y bêl i fyny ar y llinell gais, enillodd Plumtree feddiant yn ôl, a daliwyd y bêl i fyny eto—y tro hwn gan Dan Edwards. Gyda phedair munud i fynd, goroesodd Cymru bwysau arall o sgrym Seland Newydd ar bum metr. Yna cliriodd Blair Murray y bêl o hanner Cymru, a chododd y dorf fel un.

Llun: WRU

Cadwodd Cymru afael ar y bêl yn y munudau olaf, tra oedd y dorf yn canu “Cymru, Cymru, Cymru!” Pan chwythodd y dyfarnwr y chwiban olaf, roedd dagrau a llawenydd yn y stadiwm. Ar ôl 34 o golledion yn olynol ac 73 mlynedd o aros ers ennill y tro diwethaf nol yn 1953, roedd Cymru o’r diwedd wedi trechu Seland Newydd.

Cymru 35, Seland Newydd 28

Prif lun: WRU

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau