gan Cath Jones
Wedi gwylio cwpwl o benoda o ‘Welcome to Wrexham’, roedd o ddim ond mater o amser nes oeddwn yn swnio i samplo’r ‘real-thing’. Felly, o’r diwedd, fel gohebydd gwadd i ‘Y Cymro’, cefais y cyfle i adrodd ar gêm ola’r tymor – Wrecsam yn erbyn Middlsborough.
Mae’n debyg oedd Ryan a Rob yn gwylio o rywle, ond doedden nhw nunlle i’w gweld yn y stondinau! Ond, cefais y pleser o gyfarfod y cawr bonheddig Kieffer Moore a chael ei farn ar y gêm (cyn y gêm).
Middlesbrough a darodd gyntaf, Tommy Conway yn y 4ydd munud. “Mae nhw di dod i gladdu’r freuddwyd!” meddyliais.

Ond ymladdodd Wrecsam. Tarodd Josh Windass cic rydd fel pe bai Thor Wrecsam (Mickey Thomas) wedi rhoi benthyg ei forthwyl iddo. 1-1. Ffrwydrodd y lle. Yna rhoddodd Sam Smith nhw ar y blaen ychydig cyn yr egwyl. Pandemoniwm.
Yna, yn y modd mwyaf creulon, ddoth y gwrthwynebwyr yn gyfartal bron yn unionsyth drwy David Strelec. 2-2 ar yr egwyl. Pedair gôl mewn deugain munud gwallgof.
Roedd yr ail hanner â digon i’w gynnig. Gwthiodd Wrecsam ymlaen, eisteddodd Middlesbrough yn ddwfn ac amddifynol.

Yn y diwedd, gorffennodd yn 2-2. Dim enillydd. Roedd ymgyrch arwrol Wrecsam i fyny i’r Premiership ar ben —seithfed safle – agos ond dim gemau ail gyfle. Llithrodd Middlesbrough i lawr i safle’r gemau ail gyfle (dim dyrchafiad awtomatig).
Wedi’r gêm, es allan i’r Turff, yn gwisgo fy nghrys newydd, wedi’m amgylchynu gan gefnogwyr o ochra Gaernarfon ‘Cochion Gwynedd’. “Byddwn ni’n ôl,” rhuo nhw, ac efallai y byddan nhw.
Cyn ei throi hi nôl am adref, roedd yna amser am un arall yn y Maes Gwyn lle roedd Iestyn Jones o’r Cymro a’r lejend Brian Flynn yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig. Felly diwrnod llawn digwyddiadau ond nid stori arferol Hollywood yw hon mwyach ac nid diwedd Hollywood yn bendant! Clwb Pêl-droed Wrecsam. Am dref. Am dîm. Am hunllef hardd!
Prif lun o Cath Jones gyda Kieffer Moore gan Dafydd Jones
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.