Oes, mae newid mawr ar y gorwel yn ôl y polau piniwn – ond pwy a ŵyr?
Mae dyfalu a darogan sut fydd y mwyafrif yn pleidleisio mewn etholiad ymhell o fod yn wyddoniaeth pur ond mae digon yn barod gwneud wrth gwrs.
Mae’r Cymro felly yn ymuno yn y gamp y mis yma ar drothwy cystadleuaeth fydd – yn ôl rhai – yn cynnig newid o’r fath nas gwelwyd yn oes ein Senedd ddatganoledig.
Ond a fydd cyfle go iawn i unrhyw enillwyr newid pethau? Ofni’r gwrthwyneb mae’r colofnydd Trefor Jones: Meddai; “O bosib, fy mod yn or besimistaidd wrth ysgrifennu’r erthygl hon. Teimlaf fod rhaid i rywun bwyntio mas nad yw’r prif bleidiau traddodiadol yn addo braidd ddim, ar wahân i’r ‘status quo‘.” Darllewwch ei farn yn llawn yn rhifyn Mai.
A sut gafodd rhyfel Mr Trump effaith ar y Cymro y mis hwn? Well mi oedd ein gohebydd Deiniol Tegid yn styc yn India bell o’r herwydd – a methu dod ‘nôl. Meddai: “Tydw i ddim yn disgwyl unrhyw gydymdeimlad, cofiwch. Mae ‘na lawer o bethau gwaeth na gorfod treulio mwy o amser mewn man y byddai llawer yn ei ddisgrifio fel paradwys” Darllenwch fwy am ei stori hynod yn y rhifyn hwn.
Erioed wedi cerdded y prom yn Aber? Well mae miloedd wedi – ac wrth wneud yn cyfrannu i un o ddefodau mwyaf poblogaidd Cymru yn ôl ein colofnydd Dr Geraint Davies. “Yn y degawdau hynny cyn teledu, cyn ffonau symudol clyfar, a chyn hyd yn oed perchnogaeth eang ar geir, y promenâd oedd calon y dref. Roedd y Prom ar hyd Aberystwyth yn llwyfan lle byddai pobl y dref – a’r cefn gwlad gyfagos – yn perfformio theatr gynnil bywyd bob dydd.”
A siom fawr wrth gwrs oedd hanes Cymru yn trio cael lle yng Nghwpan y Byd. Ond mae digon i fod yn falch ohono hefyd. Darllenwch erthygl Deio Edwards am ei daith o’r Bala i’r brifddinas i weld ein tîm cenedlaethol yn ceisio gwireddu breuddwyd.
Mae rhifyn Ebrill ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.