Mae clwb pêl droed Caernarfon wedi creu hanes drwy ennill rownd derfynol Cwpan Cymru Premier JD 2026 sef prif gynghrair genedlaethol bel droed Cymru – a hynny am y tro cyntaf erioed yn eu hanes.
Roedd Caernarfon yn chwarae yn erbyn Y Fflint yn Rodney Parade, Casnewydd mewn cwpan sydd yn cael ei disgrifio fel cwpan Wembley Cymru. Y sgôr terfynol: Caernarfon 3, Y fflint 0, gyda Sion Bradley, Matty Jones ac Adrian Cieslewicz yn rhwydo i’r Cofis.

Roedd awyrgylch arbennig yn Rodney parade gyda 2,224 yn bresennol – y rhan fwyaf o’r cefnogwyr wedi trafeilio lawr o ogledd Cymru. Mi fydd y fuddugoliaeth yma heddiw yn amlwg yn golygu llawer iawn i Gaernarfon ac yn rhoi hwb sylweddol i’r rheolwyr a’r cefnogwyr, gan gryfhau apêl y clwb i chwaraewyr a noddwyr yn ogystal.

Hwn ydi’r tro cyntaf i Gaernarfon gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD tra bod Fflint wedi codi cwpan genedlaethol bel droed Cymru unwaith yn y gorffennol, a hynny ‘nôl ym 1954.
Mae’r fuddugoliaeth yma heddiw hefyd yn golygu y bydd lle i Gaernarfon yng Nghyngres Ewropa, a gwobr ariannol o gannoedd o filoedd o bunnoedd.

Dyma’r trydydd tro i’r ffeinal gael ei chynnal yn Rodney Parade Casnewydd gyda’r Seintiau Newydd yn ennill y gwpan flaenorol flwyddyn ddiwethaf.
Y prif ddyfarnwr yn y gêm oedd Iwan Griffith gyda Martin Roberts, Connor Thomas a Ryan Kenny yn cynorthwyo.
Prif lun gan John Smith/FAW Cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.