Geifr i wneud Gwaith Haearn Blaenafon yn gartref

Newyddion

Mae’n debyg nad safle treftadaeth y byd sy’n llawn hanes yw’r lle cyntaf sy’n dod i’r meddwl fel cartref newydd i griw o famaliaid pedair coes, ond yn fuan dyna lle bydd 18 gafr yn byw. 

Mae’r argloddiau serth a’r archaeoleg ryfeddol yn Safle Treftadaeth y Byd Gwaith Haearn Blaenafon – sydd wedi’i leoli wrth odre Bannau Brycheiniog ac yn cael ei reoli gan Cadw – yn her wirioneddol o’i chymharu â’r ffordd arferol o reoli mannau gwyrdd hanesyddol. Ond mae’r hyn a ddechreuodd fel problem wedi agor y drws i gyfle annisgwyl. 

A dyna hanes geifr Bagot. 

Yn naturiol, mae’n well gan eifr blanhigion coediog a ffibrog fel mieri, rhedyn a draenen wen, y mae da byw eraill yn tueddu i’w hosgoi. Gall y mathau hyn o rywogaethau orlethu tirweddau diwydiannol yn gyflym, ond bydd arferion bwyta’r geifr yn helpu i’w cynnal yn naturiol. 

Yn ecolegol, mae geifr hefyd yn darparu manteision gwirioneddol i fywyd gwyllt drwy deneuo llystyfiant trwm, sy’n golygu bod golau’n cyrraedd y tir yn well ac yn annog blodau gwyllt, glaswellt a phryfed i ffynnu. Yn wahanol i beiriannausy’n lefelu llystyfiant yn unffurf, mae geifr yn creu amrywiaeth sy’n llawer mwy buddiol i beillwyr a bywyd gwyllt arall. 

Mae’r fenter hefyd yn cefnogi nodau cynaliadwyedd Cadw. Nid oes angen tanwydd na chemegau ar eifr, maent yn cynhyrchu ychydig iawn o wastraff, ac yn helpu i leihau’r ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â chynnal a chadw traddodiadol. Bydd gofal y geifr yn arloesol hefyd; bydd coleri ffensio rhithwir yn cael eu ffitio arnyn nhw ac byddan nhw’n cael eu monitro drwy gamerâu solar 4G. 

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Cadw: 

“Does dim modd gwahanu hanes a thirwedd yng Ngwaith Haearn Blaenafon, ac mae’r fenter hon yn adlewyrchu hynny’n berffaith. Mae geifr Bagot wedi bod yn rhan o gefn gwlad Cymru ers cenedlaethau, a nawr byddan nhw’n ein helpu i ofalu am y dirwedd ryfeddol hon mewn ffordd sy’n sensitif i’w chymeriad, yn well i fywyd gwyllt ac yn fwy caredig wrth yr amgylchedd – ac rydyn ni’n  gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau eu gweld fel rhan o stori’r safle.” 

Bydd y geifr yn cael eu darparu a’u rheoli gan Grazing Management Ltd, cwmni rheoli tir arbenigol sy’n canolbwyntio ar atebion naturiol ac ecolegol ar gyfer safleoedd heriol. 

Dywedodd Alex o Grazing Management Ltd: 

“Roedd Blaenafon yn safle arloesi anhygoel ac mae’n fraint dod ag arloesi newydd i helpu i warchod y safle hanesyddol hwn.” 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau