Unwaith eto – ’da ni yma o hyd… serch y siom 

Chwaraeon Newyddion

Mae yna hen ddadl sy’n codi pryd bynnag mae tîm pêl-droed dynion Cymru yn chwarae yn y De: “Pam nad ydyn nhw’n chwarae gemau mwy cystadleuol yn y Gogledd?”.

Ond mi wna i adael i chi mewn i gyfrinach fach …er bod y daith yn hir, mae’r rhan fwyaf o’r cefnogwyr o ogledd Cymru fel fi, yn edrych ymlaen at, ac yn mwynhau, taith i’r brifddinas. 

Ac wrth i ni grwydro ar hyd yr A470 droellog, nid yn unig mae’r caneuon yn llifo, ond hefyd mae llanw uchel o atgofion.

Dyddiau lliwgar canol y nawdegau; wedi’u gwisgo mewn crys Fred Perry a jîns Paul Smith; peint o Carling yn y City Arms am £1.50; artistiaid Cymreig yn rheoli’r byd cerddoriaeth gyda’r Manics, y Phonics, neu’r Furrys. A Bobby Gould yn trio rheoli’r byd gan benodi Vinny Jones yn gapten. 

Ond serch hynny, yr achlysur cyfan o fod yn bresennol yn y brifddinas i gefnogi ein gwlad swynodd ein dychymyg… heb sôn am y straeon chwedlonol fel sylweddoli ein bod wedi gadael rhywun ar ôl yng Nghaerdydd, pan oedden ni hanner ffordd yn ôl i’r Bala.

Ond ar ôl cyrraedd yn ôl yn y Bala tua thri o’r gloch y bore, a chamu oddi ar y bws, roedd yr enaid coll yn eistedd ar y fainc, yn tapio’i oriawr, ac yn dweud: “A lle da chi ‘di bod?”  

Ar ôl sylweddoli bod y bws wedi mynd hebddo, perswadiodd gyrrwr tacsi o Gaerdydd i fynd yr holl ffordd yn ôl i’r Bala, a hyd yn oed pasio’r bws – BWS NI! – ar hyd y ffordd, oherwydd bod o’n meddwl fod o’n laff!! A beth sy’n gwneud y stori hon mor unigryw?… y creadur anffodus hwn drefnodd y daith. 

Ia wir, dyma’r math o chwedlau oni’n ail adrodd i’n nghyfaill teithio, Ows Traws, ar ein ffordd i Gaerdydd i’r gêm holl bwysig rhwng Cymru a Bosnia yn y rownd ail gyfle.

A wyddoch chi be? Mae yna gannoedd, os nad miloedd o’r Gogledd yn rhannu’r daith gyda ni… yr olygfa brydferth o geir a llwythi o fysiau yn chwifio eu sgarffiau a’u baneri coch a gwyn, yn pipio eu cyrn mewn cyfarchiad o undod. Eeewww, da chi’n clywed hwnnw? Ia, fy nghalon i ‘di hwnna. 

Yn fuan mae’r hetiau coch, gwyrdd, a gwyn yn cyrraedd stadiwm dinas Caerdydd… yn wên o glust i glust o gael tocyn, ac yn amlwg yn awyddus i fod yn rhan o’r cyffro. 

Nid oedd angen yr anthem Zombie nation i ddeffro’r cyffro – roedd o wedi codi a deffro ers misoedd. Ac wedyn cyrhaeddodd yr anthem genedlaethol – WOW. Nid yn aml dwi’n teimlo’n emosiynol, ond mae ‘na wbath yn ein hanthem sy’n cynhyrfu’n enaid i’r pwynt does genna i ddim rheolaeth o’r dagrau yn llifo lawr fy mochau fel dagrau o fêl… ia dagrau llawn balchder. 

Yr arwr y funud yn cael i lorio, de de de de Harry Wilson yn bloeddio a tharanu o gwmpas y stadiwm swnllyd. Aeth y gŵr o Gorwen yn agosach fyth i ysgrifennu i enw ar y daflen sgorio a thanio fflam y dreigiau gydag ergyd anhygoel… taro’r bar.

Arwyddion o nerfau yn cropian y dorf, ac mae angen sbarc i setlo’r nerfau… ac ar y llwyfan mawr a’r awr fawr mae Dan James yn gyrru’r wlad i’r nefoedd hefo’i roced o 30 llath. AM ERGYD! AM AWYRGYLCH!  

Ond arhoswch. Tydi’r noson am arwyr heb orffen… mae’r dorf ar eu traed i gymeradwyo arbediad campus gan golgeidwad Cymru, Karl Darlow. Arbediad byse Superman yn falch ohono.

Beth bynnag, tydi Bosnia heb ddod i’r brif ddinas i roi’r ffidil yn y to heb gynnig cyffro a brwydr… a dilyn cic cornel iddynt, mae’r cefnogwyr swnllyd Bosnia yn dathlu. Cyfartal hefo munudau yn weddill. O am glec i galonnau’r dreigiau ffyddlon. 

Awyrgylch a thensiwn sy’n brifo eich cefn wrth i chi fod ar flaen eich sedd… mam bach, mae’r amser ychwanegol mae’n creu hafoc hefo’r nerfau!  

Ac ia, yr un hen stori  o golli i giciau o’r smotyn oedd hi.  

Ac fel oedden yn dod allan o stadiwm dinas Caerdydd hefo’n pennau lawr, ddoth Dafydd Iwan ymlaen i gynnig neges werthfawr i ni gyd unwaith eto… ’da ni yma 0 hyd. 

 

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    1 Comment
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau
    Iestyn

    Da iawn Deio