Gorillaz yng Nghymru am y tro cyntaf erioed – ac yn galw i’r Gymraeg gael ei dysgu yn Lloegr

Diwylliant / Hamdden Newyddion

Perfformiodd Gorillaz yng Nghymru am y tro cyntaf erioed neithiwr (nos Sadwrn) i hyrwyddo ei halbym newydd The Mountain.

Roedd prosiect Damon Albarn a Jamie Hewlett yn perfformio yn Arena Utilita Caerdydd gyda sioe anhygoel yn cynnwys band llawn ac amrywiaeth o westeion arbennig fel Gruff Rhys sydd wedi cydweithio ar albym Gorillaz am yr ail dro.

Roedd Gruff yn perfformio ar drac The Shadowy Light – un o uchafbwyntiau’r sioe, sydd hefyd yn cynnwys cantores Bollywood Asha Bhosle sydd wedi mwynhau gyrfa dros wyth degawd hyd yma. Roedd Gruff hefyd yn perfformio ar drac Superfast Jellyfish gyda Pos o De La Soul, wnaeth lwyddo i gael y dorf i symud.

Yn ystod y set stopiodd Damon un o’r caneuon i wneud datganiad annisgwyl a gafodd gymeradwyaeth fonllefus:

I’m from England….We were taught more French, German and actually thank goodness some Spanish and Chinese as well now, but never taught any Welsh. And that doesn’t make any sense because we’re all neighbours and it’s ridiculous we weren’t taught Welsh. Now I want to say thank you, and I think it’s diolch.”

Roedd y sioe yn cynnwys delweddau trawiadol a oedd yn cyd-fynd gyda pherfformiadau egnïol y band a’r gwesteion eraill fel Pos o De La Soul, Yasiin Bey (Mos Def gynt), Kara Jackson a’r rapiwr o Archentina, Trueno, sydd hefyd yn cefnogi ar y daith gyda’i fand ei hun.

Adolygiad gan Laura Nunez. Lluniau gan Will Bailey

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau