Sut wlad ydan ni os yw cyfaddef dyhead am lwybr call at ein hannibyniaeth yn y dyfodol yn dal i gael ei weld gan rai fel clymu maen melin rownd unrhyw obeithion etholiadol?
Dychmygwch sefyllfa gyffelyb yn yr Alban gyda Phlaid Genedlaethol yr Alban yn cael ei hannog i fod yn onest gyda’r etholwyr a ‘chyfaddef’ mai gwlad annibynnol yw ei bwriad yn y pendraw. Pwy ŵyr felly? – mae’r peth yn chwerthinllyd o hurt.
Ond y tristwch i ni – er dathlu mwy na chwarter canrif o senedd ‘ein hun’ – yw bod cymaint o’r hen agweddau Prydeinig di-gwestiwn hyn i’w gweld o hyd… ac i’w gweld yn gliriach nag erioed hwyrach ar drothwy etholiad sydd yn addo siglo cwch y sefydliad ddi-newid yn fwy nag arfer.
Syniadau o’r fath sy’n cael awyr iach ar dudalen flaen y Cymro y mis yma gyda’r colofnydd Heledd Gwyndaf yn gofyn pam na all ein Senedd fritho i fod yn batrwm o bleidiau Cymreig o bob math heb y dibyniad oes oesol ar strwythurau’r pleidiau Prydeinig. Meddai Heledd: “Dylid ddim bod lle i unrhyw un o’r pleidiau o unoliaethwyr hyn yn Senedd Cymru. Mae angen mwy o bleidiau Cymreig arnom, rhai sydd hyd yn oed yn fodlon dadlau yn llwyr dros annibyniaeth i Gymru, a’r Gymraeg yn flaenllaw i hynny.” Darllenwch fwy yn rhifyn Chwefror.
Mae adroddiad arbennig hefyd gan Deiniol Tegid am yr ymgynghoriad ar fwriad i gau dwy ysgol wledig yn Sir GAr. Meddai un o’r Llywodraethwyr: “Mae’r cod statudol yn mynnu y dylai’r Awdurdod Lleol drafod gyda ni’r holl bosibiliadau cyn penderfynu ar gynnig i gau ysgol, neu bydd y ‘Rhagdyb yn erbyn cau Ysgolion Gwledig’ yn ddiystyr.” Darllenwch am y sefyllfa ddiweddaraf yn yr erthygl.
Bydd yr hyn ddigwyddodd i Dafydd Iwan yn ddiweddar yn aros gydag ef am byth? Meddai: “…bydd y profiad yn aros gyda mi weddill fy nyddiau, a’r hyn a ddysgais am y natur ddynol yn wers nad anghofiaf byth.” Be tybed?
Mae’r colofnydd Cadi Edwards am gael profiad newydd hefyd ar ôl blynyddoedd lawer o boeni gormod beth mae eraill yn meddwl ohoni. “…dwi ‘di penderfynu cymryd naid enfawr tu hwnt i fy ‘comfort zone’, a dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel arf i ddatblygu fy ngyrfa. Mae’r syniad o wneud hynny’n fy llenwi ag ofn” Darllenwch am ei bwriad yn Y Cymro.”
Sut y collodd Cymru ei ffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin? – mae gan y colofnydd Dr Geraint Davies yr holl hanes y mis yma.
Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn ymateb i holiadur Y Cymro… a diolch am wneud.
Mae rhifyn Chwefror ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
zmax
zmax