Rhifyn Ionawr Y Cymro

Newyddion

The ‘Mushroom Garden’  neu ‘Goed Cerrig y Frân’? – hmmm gadwch i ni feddwl …ond nid am hir chwaith!

Oes wir reswm pam bod enwau Saesneg newydd gwirion yn disodli enwau Cymraeg hanesyddol? – a hynny ar fapiau swyddogol y wlad cofiwch.

Dyma’r sefyllfa barhaus sy’n cael y sylw ar dudalen flaen Y Cymro’r mis hwn wrth i ymgyrch Cylch yr Iaith drio gwneud rhywbeth ynglŷn â’r fath nonsens.

Meddai Ieuan Wyn o’r mudiad: “Mae’r Arolwg Ordnans yn cyfrannu i’r broses o ddisodli enwau hanesyddol Cymraeg gan enwau Saesneg yn yr amgylchedd naturiol, ac mae hyn yn warth. Mae polisi iaith bresennol yr asiantaeth yn gwbl annerbyniol, a dylid ei newid yn ddiymdroi.” Darllenwch mwy yn y Cymro.

Mae ambell un ohonom yn cysuro ein hunain gyda’r syniad clud o siopa’n lleol. Ond faint ohonom sydd wir yn gwneud pwynt o wneud hynny pan mae pethau’r byd ond clic ffôn oddi wrthym. Wel, mae yna bleser rhyfeddol i’w gael o wneud jyst hynny yn ôl y colofnydd Heledd Gwyndaf …a  phosibilrwydd cryf o fod yn gwario llai yn y pen draw hefyd. Darllenwch be sydd ganddi i’w ddweud.

Mae pawb yn gwybod am Wladfa Patagonia – ond be am yr un 250 mlynedd cynt ar arfordir arall. Darllenwch am beth ddigwyddodd i’r ymsefydlwyr yng ngholofn yr hanesydd Melfyn Hopkins yn rhifyn Ionawr.

Ac mae ein colofnydd o’r Wcráin Nonna-Anna Stefanova – mewn erthygl ddirdynnol – yn gofyn a oedd ganddi hi a’i chydwladwyr yr hawl i deimlo unrhyw lawenydd o gwbl dros yr ŵyl ddiweddar ymysg erchyllterau’r rhyfel presennol.

Mae rhifyn Ionawr ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau