Rhifyn Tachwedd Y Cymro

Newyddion

Mae deheuad ein gwlad am annibyniaeth yn cynyddu’n gyflym  meddai mudiad YesCymru wrth iddynt ddathlu gorymdaith lwyddiannus arall – y ddegfed ers i’r cyntaf gael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2019.

Mae lluniau o’r digwyddiad ar dudalen flaen a thu mewn i rifyn Tachwedd Y Cymro sydd yn y siopau rŵan.

Mae’r mudiad wedi ennill sylw o’r newydd yn dilyn gwrthodiad parhaus San Steffan i ddatganoli rheolaeth ar Ystâd y Goron i Gymru, er gwaethaf cefnogaeth gyhoeddus a gwleidyddol llethol ledled y wlad.

Mae dychweliad cyfres boblogaidd S4C Stad ar ôl tair blynedd hefyd yn cael sylw ar y dudalen flaen ynghyd ag ymdrech brwydr gwraig weddw i dderbyn tystysgrif marwolaeth ddwyieithog ar ôl colli ei gŵr.

A phwy oedd y cymeriad dirgel hwnnw a guddiodd ar ffin Cymru yng nghyfnod Owain Glyndŵr? Y fo oedd model Shakespeare am Falstaff – a chafodd dynged erchyll ar ôl cael ei ddal o’r diwedd. Darllenwch ei hanes yn y rhifyn yma yn erthygl yr hanesydd Mel Hopkins.

Mae neges drawiadol arall hefyd yn y rhifyn gan Nonna-Anna Stefanova o Wcráin sy’n adrodd hanes trio byw rhyw fath o fywyd bob dydd dan gysgod tywyll rhyfel. Meddai Nonna yn ei herthygl: “Rwy’n meddwl am bobl trefi bach Wcráin sydd bron â chael eu dileu o’r map gan ymosodiadau Rwsia.”

A beth sydd gan Gymru i ddysgu gan wledydd y Caribî? Wel, tipyn go lew yn ôl yr economegydd Dr Edward Thomas Jones yn ei golofn. Meddai: “I Gymru, mae’r gwersi’n glir. Nid oes rhaid i boblogaethau bach ac adnoddau cyfyngedig gyfyngu ar eu huchelgais. Gall buddsoddi’n strategol mewn pobl, arallgyfeirio’r economi, a brandio diwylliannol hyderus sicrhau ffyniant sy’n para.”

Mae rhifyn Tachwedd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau