Heddiw cyhoeddodd yr Eisteddfod mai’r actor, Mark Lewis Jones, a ddaw’n wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, yn dilyn gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol.
Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ar gyrion dinas Wrecsam o 2-9 Awst eleni.
Mae wyneb Mark Lewis Jones, a anwyd ac a fagwyd yn Rhos, yn adnabyddus i bawb, a dywed i’r gefnogaeth a’r anogaeth a gafodd gan ei gymuned leol fod yn greiddiol iddo a’i yrfa fel actor dros y 40 mlynedd ddiwethaf.
Ymunodd â’r theatr ieuenctid yn Theatr Clwyd cyn mynd i astudio drama yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Yna, bu’n gweithio yn Theatr Clwyd cyn symud i Lundain am 27 mlynedd, a symud wedyn i Gaerdydd a phriodi ei wraig, Gwenno.
Mae wedi ymddangos ar nifer fawr o sioeau teledu eiconig y cyfnod diweddar, gan gynnwys ‘The Crown’, ‘Outlander’, ‘Game of Thrones’, ‘Chernobyl’, ‘Keeping Faith’, ‘Man Up’ a ‘Baby Reindeer’.
Ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau sy’n enwog dros y byd, gan gynnwys ‘Star Wars: The Last Jedi’ a’r ffilm ddiweddar o Ganada, ‘Sweetland’.
Ac wrth gwrs, mae wedi actio mewn llu o gyfresi drama ar S4C gan gynnwys ‘Dal y Mellt’, ‘Con Passionate’, ‘Calon Gaeth’ ac ‘Y Pris’.
Wrth sôn am y gwahoddiad gan yr Eisteddfod, dywedodd, “Ro’n i mor falch i gael y gwahoddiad i fod yn Llywydd. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl ac rwy’n hollol ‘chuffed’ ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn yr Eisteddfod. Mae gen i deulu yn y Rhos o hyd ac rwy’n mynd adref i’r pentref yn rheolaidd.”
Mae Mark Lewis Jones yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.
Cyflwynir anerchiad Llywydd yr Ŵyl ar lwyfan y Pafiliwn am 12:50, ddydd Sadwrn 2 Awst. Bydd Mark Lewis Jones hefyd yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd Cymru fore Gwener, 8 Awst.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.