Mae’r ffrae barhaus dros y Fedal Ddrama wedi gwrthod ymadael ers Prifwyl y llynedd a’r bennod ddiweddaraf sy’n hawlio’i lle ar dudalen flaen rhifyn Mai y Cymro.
Mewn sawl ffordd, mae’n beth da efallai ein bod ni fel cenedl yn poeni gymaint am ryddid artistig, tryloywder, rhyddid barn a hunaniaeth ein Eisteddfod. Digon teg weithiau i fynd ati go iawn yn tydi?
Beth bynnag, mae cyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod bellach wedi ei gwneud yn glir iawn rŵan bod penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Pwy ŵyr a fydd hwn yn rhoi het ar ben y peth.
Meddai Peredur Lynch: “Mae’r dirgelwch ynghylch be’n union ddigwyddodd yn Eisteddfod 2024 yn parhau, ac mae dirgelwch o hyd yn porthi chwilfrydedd y cyhoedd.
“Pwy saethodd JFK? Pwy oedd yn llercian ar y bryncyn glas yn Dallas? Ai Cymro oedd Jack y Llarpiwr? Pwy oedd y Brenin Arthur?”
Darllenwch fwy am stori droellog iawn yn Y Cymro.
A be am siarad ein hiaith ar lawr y Senedd? Does dim hanner digon yn gwneud meddai’r colofnydd Heledd Gwyndaf er y miloedd sydd yn cael ei wario ar sustem gyfieithu wych.
Meddai: “Mae cyfieithwyr ar y pryd yno, i’w defnyddio, er mwyn galluogi pobl sydd heb y Gymraeg i ddeall. Dw i’n amau efallai fod ambell un yn credu bod yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud MOR bwysig fel ei bod hi’n hanfodol defnyddio’r Saesneg, rhag ofn i rywun rhywle golli mas ar y perlau sydd ganddynt i’w mynegi.” Beth yw eich barn chi? – cysylltwch â gwyb@ycymro.cymru.
Mae Dafydd Iwan yn gweld llygedyn o obaith am ddatrysiad i’r argyfwng cartrefi yn ein mentrau cymunedol. Sut felly? – well, darllenwch ei farn yn ei golofn y mis yma.
A sut y cafodd tri thrysor ar ddeg dirgel Cymru effaith ar lenyddiaeth y byd? Mae rhestr hynafol yn cofnodi eu lleoliad …ac mae elfennau ohonynt i’w gweld yn Harry Potter a llyfrau hudol Tolkien. Darllenwch amdanynt yn erthygl hanes Melfyn Hopkins.
Mae rhifyn Mai ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.