Mae’r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi ymddiswyddo ar ôl pedwar mis yn unig yn y swydd.
Fe fydd yn “dechrau’r broses o gamu i lawr fel arweinydd y Blaid Lafur Gymreig ac, o ganlyniad, yn Brif Weinidog”
Yn gynharach heddiw fe wnaeth pedwar gweinidog adael ei gabinet.
Mae’n dweud ei fod wedi gobeithio dros yr haf y gallai “ailadeiladu ac adnewyddu ddigwydd o dan fy arweiniad”.
“Rwy’n cydnabod nawr nad yw hyn yn bosibl,” meddai.
Mae’n dweud y bydd yn trafod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd.
Mewn datganiad dywedodd Vaughan Gething: “Rwyf wedi cymryd y penderfyniad anodd y bore yma i ddechrau’r broses o roi’r gorau i fod yn arweinydd Llafur Cymru ac, o ganlyniad, yn Brif Weinidog.
“Ar ôl cael fy ethol yn arweinydd fy mhlaid ym mis Mawrth, roeddwn wedi gobeithio dros yr haf y gallai cyfnod o fyfyrio, ailadeiladu ac adnewyddu ddigwydd o dan fy arweinyddiaeth.
“Rwyf yn cydnabod nawr nad yw hyn yn bosibl.
“Mae wedi bod yn anrhydedd mwyaf fy mywyd i wneud y swydd hon hyd yn oed am ychydig fisoedd byr.
“Gweld ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus gan ein gwasanaeth sifil, a’r ymroddiad i sifilrwydd gan y cyhoedd yng Nghymru.
“Gweld etholiad llywodraeth newydd yn San Steffan, a’r gobaith newydd a ddaw i Gymru.”
“Rwyf wastad wedi dilyn fy ngyrfa wleidyddol i wasanaethu Cymru.
“Ac mae gallu dangos i gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol bod lle iddyn nhw, i ni, yn anrhydedd ac yn fraint fydd byth yn lleihau.
“Dyna beth a’m denodd i wasanaeth cyhoeddus. Cyn dod yn AS bues i’n ymladd achosion cyflogaeth ar gyfer pobl a oedd wedi cael eu cam-drin yn y gwaith.
“Roeddwn i eisiau rhoi pŵer i’r rhai heb lais. Dyna fu fy ysgogiad erioed.
“Fe wnes i hefyd ymgyrchu i helpu i greu’r Senedd, gan roi 30 mlynedd o waith i gefnogi taith ddatganoli Cymru.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.