Mae pris tat Cymreig wedi cael codiad sylweddol dros nos wrth i’n tîm cenedlaethol drechu’r hen elyn yn ein prifddinas ddoe. I ryw raddau, cliciwch yr abwyd…a darllenwch isod am farciau allan o 100.
Chwaraeodd Y Cymry fel tîm o unigolion talentog gyda hud a lledrith gwlad y Rwla, tra mai dim ond unigolion yn actio fel chwaraewyr ddaeth draw o wlad y Shakespeare.
Wele farciau Y Cymro – allan o gant y cant – am yr unigolion rheiny:
CYMRU
Yn Ôl [ mwyafswm o 100 ]
Liam Williams : 110%
George North : 110%
Jonathan Davies : 110%
Hadleigh Parkes : 100%
Josh Adams : 310% [ Cyfweliad Cymraeg ar S4C wedi’r gêm]
Dan Biggar : 310%
Gareth Davies : 110%
Ymlaen
Rob Evans : 110%
Ken Owens : 310% [ Cyfweliad Cymraeg ar S4C wedi’r gêm]
Tomos Francis : 110%
Cory Hill : 310%
Alun Wyn Jones : 310% [ capteinio ]
Josh Navidi : 310%
Justin Tipuric : 110%
Ross Moriaty : 110%
[ Buodd yna gamgymeriad syfrdanol ar ddechrau’r ddwy hanner wrth i Gareth Anscombe grwydro ar y maes yng nghrys y maswr. Cymrodd hi bron i awr i reolwr Cymru a’r Llewod Warren Gatland gywiro hynny gydag ymddangosiad grymus ac arwrol Daniel ‘Dan’ Biggar, 310%. Nid ydym wedi ceisio cael ymateb gan Gareth Anscombe yn ystod y cyfnod anodd hwn.]
Wele hefyd marciau Y Cymro hwn – allan o gant y cant – ar gyfer Neighbours Eddie Jones:
1 Harold Bishop: 12%
2 Madge 75%
3 Henry 50%
4 Jim Robinson 80%
5 Joe Mangle 65%
6 Mrs Mangle 14% [ ym mhobman ond yn bur aneiffeithiol]
7 Scott Robinson 50%
8 Charlene 25% [ bach iawn oedd ei hymroddiad ddoe ]
9 : Did not play
10 : Did not play
11 : Did not play
12 : Did not play
13 : Did not play
14 : Did not play
15 : Did not play
wrth gefn: Paul Robinson
#CmonCymru ! #YCymro
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.