Rhifyn Hydref Y Cymro

Newyddion

Ble mae entrepreneuriaid llewyrchus Cymru? Adar prin ydynt yn ôl ambell un ac yn sicr mae gorddibyniaeth yn ein gwlad ar y sector gyhoeddus meddai eraill.

Dyna’r pwynt trafodaeth ar y dudalen flaen sy’n ail adrodd pwynt ein colofnydd Gari Wyn Jones.

Meddai: “Ryda’ ni angen annog llai o bobl i fynd i weithio i’r sector cyhoeddus a rhoi bri yn ein hysgolion ar greu mentrau er mwyn creu cenhedlaeth newydd fydd yn cystadlu’n effeithiol gyda’r cwmnïau hynny sy’n cymryd ein harian a’i gludo i farchnadoedd stoc Llundain a gwledydd tramor.” Cytuno? Darllenwch mwy yn rhifyn Hydref ac anfonwch eich barn chi at gwyb@ycymro.cymru

A barn gryf sydd gan ein colofnydd Heledd Gwyndaf y mis yma ar ran – neu ddim – y BBC wrth lunio dyfodol call i’n cyfryngau yng Nghymru. Meddai: “Does gan y sefydliad ddim i’w gynnig i ni, dim ond rhwystrau. Ac mi ddylsem un ag oll ymwrthod ag unrhyw ymdrech i gael ein tynnu mewn i drafodaeth am ei le mewn system ddarlledu ddatganoledig” Be feddylier tybed?

A be am y llyfr gyda’r geiriau Cymraeg hynaf yn y byd – a gyfnewidiwyd unwaith am geffyl! Do wir – darllenwch yr hanes yng ngholofn Melfyn Hopkins.

Mae Cadi Edwards adre ar ôl ei thrafferthion moduro ar wyliau yn Ffrainc ac mae pethau mawr ar y gweill – ffeindiwch allan be yn ei cholofn y mis yma.

Mae rhifyn Hydref ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau