Llun uchod – Josh Thomas: Dechrau addawol – Joe Rodon ar ôl rhoi Cymru ar y blaen yn y munudau cynnar
Gêm fawr y flwyddyn
gan Iestyn Jones
Wna i ddechrau hefo tipyn o gyffesiad – datguddiad sy’n eitha’ amlwg i bobol sy’n fy nabod i: Dwi ddim yn mynd i wylio Cymru’n chwarae pêl droed cyn gymaint falle ag y dylwn i.
Y tro diwethaf imi fod i Gaerdydd oedd bron iawn i flwyddyn yn ôl i wylio nhw’n ennill Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gwlad yr Ia. Ar ôl y gêm yna, wnaeth Karl Jones o Lanuwchllyn, ddreifio ni nôl adra ar yr A470, drwy’r eira. Roedd gwaith y diwrnod wedyn… ond “o boi!”, roedd y siwrne werth o – cael gweld Cymru’n sgorio pedair gôl a chael amsugno’r awyrgylch trydanol sy’n rhan o’r profiad. Ta waeth, oherwydd fy absenoldeb dros y flwyddyn ddiwetha’, roeddwn yn teimlo fel tipyn o dwyllwr. A finnau a Karl wedi cael tocynnau i’r Wasg ar rhan Y Cymro ac yn cael bod yng nghwmni cewri fel Dylan Griffiths (Radio Cymru), Dylan Ebenezer a Nic Parry (Sgorio) a Nathan Blake (Radio Wales); roeddwn i’n disgwyl i rywun fy nghyhuddo o fod yn un o deithwyr y lori lwyddiant: “Lle ti di bod tan wân?”. Wel, gwell hwyr na hwyrach …
Roedd gen i ieir bach yr haf yn dawnsio yn fy stumog cyn y gêm, a phwy all fy meio? Os fysa Cymru yn ennill y tair gêm nesa – bysa nhw’n mynd i Cwpan y byd 2026 yn America!
Felly, dyna lle roeddwn i, gêm ryngwladol, o dan olau lleuad gwelw. Cymru yn erbyn Gwlad Belg. Yn y gorffennol, ’da ni di medru ymdopi hefo nhw’n iawn hefo’r fantais o chwara’ gartref. Ond, ‘gêm rhagbrofol Cwpan y Byd’, oedd hon. Ymadrodd sy’n sibrwd addewidion o ogoniant ond yn aml yn cyflwyno dim byd ond blas llwm edifeirwch ac arogl llym anobaith.
Hon oedd gêm fawr y flwyddyn. Hon oedd y frwydr am enaid Grŵp J, tango tair ffordd gyda Gogledd Macedonia, lle gallai’r camgymeriad lleiaf anfon cenedl i ddyfnderoedd tywyll. A rhyngoch chi a fi – roedd yr awyr yn drwchus gydag arogl ofn… ro’n i’n teimlo fel oeddwn nôl yn 1988 ag yn barod i ymladd bwli’r Ysgol.
Roedd angen i ni (Gymru), tîm oedd wedi crafu ei ffordd trwy’r gemau blaenorol, ddod o hyd i’w ffurf. Roedd eu buddugoliaethau cartref diweddar yn erbyn Kazakhstan a Liechtenstein wedi dangos ein hochr fregus … a heno roedden ni’n chwarae tîm llawer anoddach – Gwlad Belg!
Roedd yr ymwelwyr yn cyrraedd ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Gogledd Macedonia, canlyniad a oedd yn sicr o’u tanio. Gyda thîm o chwaraewyr aruthrol fel De Bruyne a Doku i greu eiliadau o ddisgleirdeb, roedden ni ond curiad calon i ffwrdd o berygl.
Yn serennu i Gymru roedd; wel… Maen nhw i gyd yn sêr, ond oherwydd ein ni di dod o Bala, bysa’n rhaid enwi’r bachgen ifanc o Gorwen – Harry Wilson.
Felly, i’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gwybod yn barod, dyma sut aeth hi:
Dechreuodd Cymru’n gryf ag roedden nhw’n cnocio ar ddrws Gwlad Belg. Ac yna, yn y seithfed munud gawson ni drît o gôl gan Joe Rodon. Am y deng munud nesa mi oedd y wal goch yn bownsio. “We are top of the league!” Canodd y dorf Gymreig. Ond doedd y dathlu ddim yn mynd i bara. Ar ôl 10 munud roedd y gêm yn gyfartal ar ôl dyfarniad amheus a chic or smotyn. Ychydig o funudau wedyn roedd Gwlad Belg ar y blaen ag roedd fy nghalon yn dechrau torri. Ro’n i di teimlo fel hyn or blaen. Rwy’n cofio rwan pam doeddwn i ddim yn dod i lawer o gemau byw. Mi rydw i’n gollwr gwael!!
Yn yr hanner cyntaf wnaethon nhw ein brifo ni. ‘Spoiler Alyrt’ – Yn yr ail hanner fe gawsom ein torri!! Cafodd Gwlad Belg gôl arall ar ôl cic arall o’r Smotyn. Roedd hi’n 1-3 rwan… yna fe ddoth tinc o ola’ hefo gôl Nathan Broadhead. Ond, fe gaewyd y llenni hefo gôl arall i’r ymwelwyr.
Y sgôr terfynol: Cymru 2, Gwlad Belg 4.

Lluniau gyda chaniatâd caredig y ffotograffwyr
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.