Wrecsam v Caerdydd – gelynion pennaf … neu ai cystadleuaeth rhwng y gogledd a’r de yn unig yw hyn?
gan Deio Edwards
Eeewww, wyddoch chi be? Tydio’n syndod sut mae geiriau yn gallu tanio atgofion ein synhwyrau… heb sôn am dân yn y bol!
Caerdydd – yn y gwpan – ar y Cae Ras!!
Yr atgof cyntaf darodd fel mellten oedd yr awyrgylch a’r achlysur mwyaf cyffrous a mwyaf ffyrnig profais i erioed posib – ffeinal Cwpan Cymru 1995, Caerdydd v Wrecsam, yn yr hen Barc yr Arfau yng Nghaerdydd. Diwrnod llawn drama – y tu mewn a thu allan i’r hen stadiwm hanesyddol wrth i’r blaenwr a ffefryn cefnogwyr Wrecsam, ia, Gary Bennett – sgorio dwy gôl i helpu Wrecsam ennill o ddwy gôl i un.
A nawr, 30 mlynedd yn ddiweddarach… ma’r synhwyrau wedi cynhyrfu gymaint, dwi’n gofyn i fy hun – beth yw’r rheswm pam bod gêm o bêl-droed rhwng dwy ddinas gyda phellter o dros 145 milltiroedd rhyngddynt, yn achosi gymaint o densiwn a drama?
Gogledd v De? Coch v Glas? – neu jest y fraint o fedru gweiddi “HEI – UN TÎM YNG NGHYMRU – A NI DI’R TÎM GORA YNG NGHYMRU!” Wel… mae o mor bell yn ôl ers i Wrecsam gyhoeddi hynny.
Mae cymaint wedi digwydd, a ma’ cymaint wedi newid ers i’r Cochion o Wrecsam a’r gleision o Gaerdydd chwarae ei gilydd y tro olaf, dros ugain mlynedd yn ôl.
Mama Mia! Oni ar bigau isio gweld os oedd yr hen fflam rhwng y ddwy ddinas yn medru tanio. Ac yn ystod y mis o aros yn ddiamynedd am y gêm hon, collais fy hun yn nhrysor rhaglenni gemau rhwng y ddwy ddinas o’r gorffennol.
O’r eiliadau cyntaf o gyrraedd Wrecsam yn y prynhawn, roedd geiriau clasur Phil Collins: “I can feel it coming in the air tonight” yn fy mhen.
Croesawodd canol y ddinas fi â sain felys cerddoriaeth o’r tafarndai a’r olygfa hyfryd o bobl yn mynd heibio yn gwisgo eu crysau coch a gwyn yn falch… nes iddo gael ei ddinistrio gan sŵn sgrechian faniau terfysg gyda’u goleuadau glas yn fflachio yn haul yr hydref. Wel, fe wnes i gyflymu i gyfarfod ag un o gyn sêr Clwb Pêl-droed Wrecsam… Andy Edwards.
Ein lloches ddiogel oedd tafarn ‘Vault 33’, sydd ar hyn o bryd yn eiddo i gyd-seren arall o Glwb Pêl-droed Wrecsam – Neil Roberts. Trodd ein trafodaeth yn gyflym at brofiad blaenorol o’u hamser yn chwarae yn erbyn dinas Caerdydd, gydag Andy’n dweud: “Mae’n fwy na gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd – mae’n achlysur… ac hei – Sgoriais fy nwy gôl olaf i Wrecsam yn erbyn Caerdydd, yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru 1985 – a bydda i’n trysori’r goliau hynny am byth!”
Yn ôl at y gêm bresennol, all y gystadleuaeth ddim bod yn agosach. Caerdydd yn cyrraedd ar eu gorau ac yn ail yn y gynghrair gyntaf… tra bod Wrecsam, yn dechrau dangos eu cymwysterau gorau ac yn eistedd yn daclus yng nghanol y tabl yn y bencampwriaeth yn dilyn perfformiadau a chanlyniadau calonogol. Ac os oedd yr awyrgylch byddarol yn unrhyw beth i’w ddangos, roedden ni i mewn am noson wych o ddrama bur. Yn bendant nid oedd hon ar gyfer y rhai gwangalon – nerfau o ddur a chroen trwchus oedd yr arfwisg ar gyfer y frwydr hon!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr




Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Sgwenu ardderchog Deio. Braf iawn gweld ti’n meithryn/ magu steil dy hyn.
Does dim terfyn i dy ddychymyg
👍🏼