Ydi bod yn wlad gymharol fach yn creu cyfleoedd i ni na wyddom sut i gymryd mantais ohonynt?
Wel, mae ‘na rhai anferth yn syllu’n syth atom yn ôl un economegwr amlwg – a’r hyn sydd angen ei wneud yw creu’r hinsawdd berffaith i’w derbyn.
Dyna’r ddamcaniaeth sydd ar y bwrdd yn rhifyn Medi Y Cymro. Pa mor hawdd bydd hi i Gymru efelychu un o’r gwledydd lleiaf – ond un o’r mwyaf llewyrchus o ran datblygiad ariannol – a dod yn wlad o uncyrn?
Meddai Dr Edward Thomas Jones: “Mae hyn o fewn pwerau Llywodraeth Cymru a gallent greu’r amodau ar gyfer busnesau cychwynnol llwyddiannus. Yn bennaf oll, mae angen newid diwylliannol yng Nghymru.”
Ble’r aeth yr holl ansoddeiriau hardd o’n hiaith lafar tybed? Pam bod cymaint yn estyn am y cyfarwydd dilewyrch?
Hwn sydd ymysg pynciau trafod ein colofnydd Heledd Gwyndaf yn rhifyn Medi. Meddai: “…mae’r geiriau ofnadwy hynny sydd yn dweud dim am ddim wedi hen ennill eu plwyf – ffab, ffantastig, briliant ac yn y blaen.” Darllenwch Heledd a rhowch wybod eich barn chi i gwyb@ycymro.cymru
Mae Dafydd Iwan yn tynnu sylw bod ambell un yn cwyno’r dyddiau hyn bod yr Eisteddfod yn troi’n ormod o Ŵyl …tybed? Darllenwch ei farn hefyd am ba mor bwysig yn union yw’r cystadlu’r dyddiau hyn.
Mae hi’n fis Diwrnod Glyndŵr ac mae ambell ddigwyddiad i ddathlu ar draws y wlad – ond faint ohonom sy’n gwybod hanes trist ei ferch Catrin? Darllenwch be ddigwyddodd iddi ar ôl gwarchae Castell Harlech yng ngholofn Mel Hopkins y mis yma.
Mae rhifyn Medi ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.