Talodd gôr deyrnged arbennig i’w arweinydd wrth iddynt gystadlu yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf a hynny ond wythnosau ar ôl ei marwolaeth.
Bu farw’r pianydd a’r cyfeilydd Annette Bryn Parri yn 62 oed ym mis Mai, yn dilyn cyfnod byr o waeledd.
Roedd hi’n gyfarwyddwr Côr Heddlu Gogledd Cymru, un o 13 côr oedd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Côr Newydd.
Gyda bron i 60 o aelodau – gan gynnwys swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ynghyd â chydweithwyr sydd bellach wedi ymddeol, mae’r côr yn cyfarfod yn wythnosol ym Mhencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn.
I dalu teyrnged i Annette fe gafodd aelodau’r côr fenthyg un a sgarfs y gantores a’u gwisgo tra ar y llwyfan.
Dywedodd yr arweinydd, Rhingyll Arwyn Tudur Jones: “Breuddwyd Annette oedd ein gweld yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod, felly rydym yn falch o wireddu.”
Ychwanegodd mae Hawys Parri, sef merch-yng-nghyfraith Annette, fydd yn cyfeilio i’r côr.
“Rydym yn ddiolchgar iddi ddod i’n helpu mewn amylchiadau mor anodd,” meddai.
Bu Annette Bryn Parri yn cyfeilio i amryw o gôrau a nifer fawr o unigolion gan gynnwys Aled Jones ac fe gafodd ei gwahodd i Balas Kensington i berfformio o flaen Tywysog Cymru a’r ddiweddar Dywysoges Diana gyda’r canwr o Fôn.
Roedd hi’n cyfeilio i Hogia’r Wyddfa hefyd ac ers 1993 roedd yn brif gyfeilydd i gorau Ysgol Glanaethwy ym Mangor.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman o Heddlu Gogledd Cymru: “Roedd Annette yn ran annatod o’r tîm ac o’r diwrnod cyntaf rhoddodd ei chalon a’i henaid i ddatblygu a meithrin y côr.
“Roedd ei chynhesrwydd, ei thalent a’i hangerdd yn arbennig a dwi’n gwybod ei bod yn gwerthfawrogi’r rôl yn fawr.”
Roedd 13 o gorau yn cystadlu brynhawn Sul mewn categori gyflwynwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Nod y gystadleuaeth yw annog a chyflwyno corau newydd, rhai sydd wedi ffurfio’n arbennig, corau cymunedol neu gorau sydd heb gystadlu o’r blaen.
Ymhlith y corau eraill fu’n cystadlu ddoe oedd Côr Plas Coch a Côr Ni o ardal Wrecsam; Côr NantClwyd o Ddinbych, Côr y Cofis o Gaernarfon a Chôr Yogi Clwb Rygbi y Bala.
Dyfarnodd y beirniaid y wobr gyntaf i Aelwyd Llangwm gyda Rhocesi yn ail a Chôr Syr Ifan yn drydydd.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Hoffwn ddiolch i Gor Heddlu Gogledd Cymru am roi teyrnged hyfryd i’r Diweddar Annette Bryn with iddynt gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol Wrexham eleni